91热爆

Marwolaethau Covid ar ei lefel uchaf ers deufis

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ward Covid

Mae nifer y marwolaethau'n ymwneud 芒 Covid yng Nghymru wedi codi i'w lefel uchaf ers deufis, yn 么l ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn yr wythnos ddiweddaraf, hyd at 1 Ebrill, bu farw 61 o bobl yng Nghymru gyda Covid-19 yn cael ei roi fel un o'r achosion ar y dystysgrif marwolaeth.

Dyma'r ffigwr wythnosol uchaf ers dechrau mis Chwefror.

Cafodd 45 o farwolaethau eu cofnodi yr wythnos flaenorol.

Yn 么l ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru, mae'n bosib y bydd marwolaethau'n cynyddu ychydig cyn cyrraedd eu brig, ond fe wnawn nhw barhau yn isel dros yr wythnosau nesaf.

Cafodd o leiaf un farwolaeth ei chofnodi ym mhob un o siroedd Cymru, gyda saith yr un yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf.

Mae 6,507 o farwolaethau'n ymwneud 芒 coronafeirws wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Pynciau cysylltiedig