Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bwriad penodi Comisiynydd y Gymraeg newydd 'wedi'r haf'
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, 91热爆 Cymru Fyw
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio penodi Comisiynydd y Gymraeg erbyn diwedd yr haf.
Wedi marwolaeth y cyn-gomisiynydd, Aled Roberts fis Chwefror, mae'r swyddfa wedi cadarnhau bod ei ddirprwy wedi cymryd yr awenau dros dro.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Cymru Fyw y bydd y broses hysbysebu yn cychwyn wedi'r Pasg, gan sicrhau penodiad wedi toriad seneddol yr haf.
Ers dod i rym yn 2012, bwriad r么l y Comisiynydd yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gosod safonau ar sefydliadau a hybu statws swyddogol yr iaith.
Yn dilyn cyfnod Meri Huws fel deilydd cyntaf y swydd, penodwyd Aled Roberts ym mis Ebrill 2019.
Yn gyn-aelod Democratiaid Rhyddfrydol o'r Cynulliad, dywedodd bod "hybu a hyrwyddo yn fwyfwy pwysig", yn ogystal 芒'r gwaith o reoleiddio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth ddisymwth Aled Roberts, rydym yn dechrau'r broses cynllunio ar gyfer penodi Comisiynydd y Gymraeg newydd.
"Ein bwriad yw hysbysebu am Gomisiynydd newydd ar 么l toriad y Pasg, gan gadarnhau'r penodiad ar 么l toriad yr haf."
Dyletswyddau i'r dirprwy
Ers marwolaeth Aled Roberts, ei ddirprwy, Gwenith Price, sydd wedi bod yn ymgymryd 芒 dyletswyddau'r r么l.
Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn fwriad cyhoeddi strategaeth newydd y sefydliad yn dilyn y Pasg.
"Ers colli Aled Roberts ym mis Chwefror eleni, rydym yn parhau 芒'r weledigaeth o greu Cymru lle gall pobl fyw eu bywyd yn Gymraeg, gan weithredu er budd yr iaith a'i siaradwyr," meddai.
"Trosglwyddwyd swyddogaethau, dyletswyddau a phwerau Comisiynydd y Gymraeg i'r Dirprwy Gomisiynydd, Gwenith Price.
"Wedi'r Pasg, byddwn yn cyhoeddi ein hamcanion a'n blaenoriaethau strategol fel sefydliad am y tair blynedd nesaf.
"Mae ein staff yn gweithio ym mhob rhan o Gymru, ac yma i gydweithio 芒'r cyhoedd a sefydliadau er mwyn goresgyn unrhyw rwystrau sy'n atal siaradwyr rhag defnyddio'r Gymraeg.
"Mae'n bwysig i ni ein bod yn gwrando ar brofiadau pobl o ddefnyddio'r Gymraeg, ac rydym yn parhau i weithio i sicrhau tegwch i siaradwyr Cymraeg. Mae croeso i unrhyw un i gysylltu 芒 ni i drafod eu profiadau wrth ddefnyddio'r iaith."