Gofyn am gofnod o 'iaith babi' er mwyn helpu rhieni
- Cyhoeddwyd
'Cici beis', 'bow wow' ac 'ych a fi' - geiriau mae'r rhan fwya' ohonom ni wedi eu defnyddio wrth siarad 芒 babis a phlant bach.
Nawr mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin yn galw ar bobl i rannu'r geiriau maen nhw'n eu defnyddio wrth siarad babi er mwyn eu rhannu gyda rhieni newydd.
Maen nhw'n gobeithio y bydd hynny'n annog rhieni sydd ddim mor hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg neu sy'n ddysgwyr, i siarad Cymraeg gyda'r plentyn o'r cychwyn cynta'.
Y cylch meithrin neu'r gr诺p Ti a Fi lleol yw cyflwyniad cyntaf nifer o blant bach i'r Gymraeg, ac yn 么l arbenigwyr mae'n bwysig cyflwyno'r iaith mor gynnar 芒 phosibl.
Dyna pam mae'r sefydliadau yn awyddus i gasglu geiriau babi er mwyn eu rhannu gyda rhieni newydd.
Dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei wneud yn Gymraeg.
Dywedodd Dona Lewis, dirprwy brif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy'n gyfrifol am y cynllun, mai'r nod ydy rhannu'r eirfa gyda rhieni di-Gymraeg a dysgwyr.
"Mae parentese yn fethodoleg sy'n bodoli ar draws y byd, a dyma'r tro cyntaf i ni ddatblygu'r eirfa yn y Gymraeg," meddai.
"Mae'r eirfa yn syml iawn, 'da chi'n defnyddio 'stumiau tra'n ei gyflwyno fo, t么n llais gwahanol ac yn y blaen.
"Maen nhw'n bethau hollol naturiol efallai i'r rhai ohonom ni sy'n siarad Cymraeg adre', ond y pwrpas ydy ein bod ni'n casglu nhw ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd eisiau eu defnyddio nhw gyda'u plant.
"Y bwriad ydy gweld pa rai yw'r mwyaf cyffredin a wedyn eu trosglwyddo mewn adnoddau neu hyfforddiant i rieni."
Yng Nghylch Meithrin Dinas Powys ger Caerdydd dim ond rhai o'r plant sy'n clywed y Gymraeg gartre', felly mae cadeirydd pwyllgor y cylch Elinor Elias Jones yn croesawu'r cynllun.
"Mae gyda ni deuluoedd gyda babis newydd sy'n dod i'r cylch, ac yn aml iawn mae'r rhieni wedi colli hyder i siarad gyda'i gilydd, ond falle bod mod i ennyn hyder eto drwy ddefnyddio Cymraeg gyda'r babi newydd," meddai.
"Mae hi mor bwysig i'r rheini i ddefnyddio'r tipyn bach o Gymraeg sydd gyda nhw, yn syth o'r amser mae'r babi yn cael ei roi yn eich c么l chi.
"Dyna pryd mae'r plentyn yn clywed yr iaith am y tro cyntaf. Mae sylfaen yr iaith wedi ei gosod wedyn.
"O un neu ddau air mae'n tyfu'n fwy o eiriau, ac yn datblygu'n frawddegau."
Mae Llinos Lloyd Hughes, 37 oed o Langwm, Corwen, yn fam i dair o ferched - Gwen聽sy'n bump oed, Alys sy'n dair a Nansi, sy'n saith mis.
Maen nhw'n aelodau o gylch meithrin a gr诺p Ti a Fi Cerrigydrudion.
"Dwi'n siarad iaith babis efo'r plant o'r cychwyn cyntaf ac yn defnyddio geiriau fel bebeis am gysgu, mi am ddwmi, ditwns am ben 么l, neu mw mw, wow wow a me me am anifeiliaid," meddai.
"Rydw i bendant yn gweld o'n help hefo'r plant. Roedden nhw'n dechra' trwy siarad babi a chyfuno synau cyn symud ymlaen i ddweud geirfa.
"Hefyd roeddwn i'n teimlo fod o'n creu rhyw fath o fond neu ddealltwriaeth rhwng fi a'r plentyn yn y dyddiau cynnar pan doedden nhw methu cyfathrebu eu hanghenion.
"Dwi'n meddwl fod y prosiect yma yn syniad gwych ac y bydd o gymorth mawr i rieni newydd sy'n dysgu'r iaith.
"Mae hefyd yn ffordd hwyliog o gychwyn cyfathrebu cynnar yn y Gymraeg rhwng mamau a babis."
Mae gan Adran Gwyddorau Addysg Prifysgol Bangor ddiddordeb mawr yn y cynllun, ac mae'r Athro Enlli Thomas, sy'n arbenigwr ar gaffael iaith plant bach, wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ers y dechrau.
"Mae hwn yn gynllun diddorol iawn sy'n torri tir newydd yma yng Nghymru - dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw un geisio cael rhestr o'r fath at ei gilydd," meddai.
"Bydd yn ddiddorol gweld yr amrywiadau iaith o deulu i deulu ac o ardal i ardal, a'r effaith bosibl ar drosglwyddo iaith o fewn teuluoedd."
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg a Mudiad Meithrin yn awyddus i glywed geiriau babi o bob rhan o Gymru, ac mae modd cyfrannu geiriau .
Buan y mae bow wow'n troi'n gi bach a dot dot yn ddolur, ond mae'r geiriau babi'n bwysig wrth sicrhau fod yna le i'r Gymraeg ym mhob cartref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020