Protestio yn erbyn costau byw uchel
- Cyhoeddwyd
Daeth tua hanner cant o bobl ynghyd yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn y cynnydd mewn costau byw.
Ar Ebrill 1 cododd y cap ar brisiau tanwydd sy'n golygu y bydd nifer o gartrefi yn talu tua 拢700 ar gyfartaledd yn ychwanegol am drydan a nwy. Bydd nifer fawr o bobl hefyd yn talu rhagor o yswiriant cenedlaethol bob mis. Ar ben hynny mae graddfa chwyddiant yn dal i godi.
Roedd nifer o'r siaradwyr yn rali yn galw ar y gwleidyddion i wneud rhagor i helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.
Mae Gwion Rhisiart yn un o'r rhai oedd yn y brotest:
"Mae prisiau ynni wedi codi llawer a chostau petrol hefyd. Dwi'n trio defnyddio llai ar y car a seiclo mwy. Ond i lawer o bobl dydy hynny ddim yn opsiwn
"Dwi'n gwybod bod llawer o bobl dan straen ar hyn o bryd a dwi'n poeni beth fydd yn digwydd os bydd prisiau ynni yn codi eto yn yr hydref."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Ry'n ni wedi cymryd camau cadarnhaol i gefnogi pobl gyda'r aryfwng costau byw. Ers fis Tachwedd y llynedd ry'n ni wedi sicrhau bod 拢380m ar gael i gefnogi pobl ar hyd a lled Cymru. Ry'n ni hefyd yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno mesurau pellach i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd."
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.