91热爆

Gwella amrywiaeth ym myd y theatr yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Sita Thomas, Tia Camilleri, Jasmine Okai a Branwen Jones yn edrych dros falconi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sita Thomas, Tia Camilleri, Jasmine Okai a Branwen Jones

Mae cynllun blwyddyn o hyd i ddatblygu 20 o gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr o gefndiroedd amrywiol wedi dechrau, gyda'r nod o gyflwyno "newid sylweddol" yn y celfyddydau yng Nghymru.

Mae Codi Cymry Creadigol yn cael ei redeg gan gwmni Theatr Fio, mewn partneriaeth 芒 Chanolfan Mileniwm Cymru.

Mae pobl sydd ar ddechrau eu gyrfa ac sy'n teimlo nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli'n ddigonol yn cael eu hannog i wneud cais am y rolau cyflogedig.

Yn 么l Sita Thomas, cyfarwyddwr artistig cwmni Fio gallai hynny fod oherwydd eu rhyw, rhywioldeb, ethnigrwydd, anabledd, neu os ydyn nhw'n siaradwyr Cymraeg, er enghraifft.

"Rydyn ni wir eisiau cael y bobl hynny mewn swyddi o b诺er, creu perfformiad, creu theatr fyw, digwyddiadau celf... cerddoriaeth," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sita Thomas, cyfarwyddwr artistig cwmni Theatr Fio gafodd y syniad o greu cynllun Codi Cymry Creadigol

Bydd y rhaglen hyfforddi yn rhedeg o fis Mai 2022 i fis Mai 2023 a bydd y 10 cyfarwyddwr a'r 10 cynhyrchydd yn gweithio gyda'i gilydd i greu dram芒u sain, a g诺yl yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru.

'Cyfle andros o bwysig'

Dywedodd cynhyrchydd Canolfan Mileniwm Cymru, Branwen Jones, fod y cynllun yn fodd o gefnogi'r genhedlaeth nesa' o weithwyr ym maes y theatr.

"I ni yng Nghanolfan y Mileniwm mae e'n gyfle andros o bwysig i fod yn cwrdd ag artistiaid a hybu artistiaid a phobl creadigol sy'n newydd i'r diwylliant."

Dywedodd eu bod am "fynd i'r afael 芒'r anghydraddoldeb a'r diffyg amrywiaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd o fewn y celfyddydau yng Nghymru".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Branwen Jones, cynhyrchydd Canolfan y Mileniwm, fod y cynllun yn cynnig cyfle i glywed 'lleisiau gwahanol' ym myd y theatr

"'Da ni eisiau clywed lleisiau gwahanol, lleisiau newydd" meddai ac ychwanegodd ei bod yn "bwysig iawn i ni ehangu'r gronfa o artistiaid yr ydym yn mynd i weithio gyda nhw yn y dyfodol, er lles y diwydiant yng Nghymru."

Mi wnaeth Tia Camilleri sy'n 17, gymryd rhan mewn prosiect gafodd ei gynnal gan Fio dros yr haf y llynedd.

Roedd Landing Bolts yn annog pobl ifanc i fynegi eu hunain drwy ddrama, dawns a chelf, ac fe greodd ynddi "angerdd creadigol" am farddoniaeth a pherfformiad.

Mae Tia bellach yn gweithio gyda Fio ac esboniodd fod prosiectau fel Codi Cymry Creadigol yn bwysig iddi.

"Dwi ddim yn teimlo mod i'n cael fy nghynrychioli'n ddigonol, yn enwedig yn y celfyddydau," meddai.

"Does dim llawer o bobl sy'n edrych fel fi ac yn rhannu'r un profiadau 芒 fi, sydd 芒 ph诺er yn y diwydiant celf, felly mae'n rhoi llawer o obaith i mi y bydd pobl fy oedran i ac iau nawr yn gallu edrych ar y diwydiant hwn a meddwl 'waw, mae lle i mi yma,' a gallan nhw edrych i fyny at bobl sy'n ein cynrychioli."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw Tia Camilleri ddim yn teimlo ei bod hi'n cael ei chynrychioli'n ddigonol yn y celfyddydau

'Gwneud newid aruthrol'

Bydd yr artistiaid gaiff eu dewis hefyd yn cydweithio 芒 dylunwyr perfformiad o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae'r ceisiadau ar gyfer y cynllun yn cau ar 4 Ebrill.

Mae Sita Thomas yn obeithiol am y newid gallai'r mentora misol a'r dosbarthiadau meistr ei gynnig.

"Rydan ni yma i wneud newid aruthrol yn y sector diwylliannol yng Nghymru," meddai.

"I mi, mae hynny'n ymwneud 芒 phobl o gefndiroedd amrywiol iawn - yn cael eu hymgorffori ym mhob agwedd o'r theatr a'r celfyddydau."

"Mae 'Codi Cymry Creadigol' yn un o'r ffyrdd rydyn ni'n mynd i wneud i'r newid hwnnw ddigwydd. " meddai.