91热爆

G锚m ail gyfle Cwpan y Byd Qatar 2022: Cymru 2-1 Awstria

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y dathlu wedi i Gareth Bale sgorio i Gymru wedi 24 munud

Mae Cymru gam mawr yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 wedi i'r capten Gareth Bale sgorio dwy g么l i guro Awstria.

Mae'n golygu bod Cymru bellach ond angen un fuddugoliaeth arall i sicrhau eu lle ym mhrif gystadleuaeth p锚l-droed rhyngwladol.

Bale oedd yr arwr unwaith eto yn Stadiwm Dinas Caerdydd gan rwydo o gic rydd yn yr hanner cyntaf ac eto yn gynnar yn yr ail hanner.

Roedd g么l i'r ymwelwyr hefyd drwy Marcel Sabitzer ond doedd yr ymwelwyr methu darganfod g么l arall wrth i Gymru amddiffyn yn gryf.

Dyma oedd profiad cyntaf Cymru o gemau ail gyfle Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd, ac fe fydd y sylw nawr yn troi at y g锚m hollbwysig yn erbyn Yr Alban neu Wcr谩in ym mis Mehefin.

Ffynhonnell y llun, FAW

Roedd Cymru yn benderfynol o'r dechrau wrth i Connor Roberts ac ergyd Dan James bwyso ar yr ymwelwyr.

Ond roedd Awstria yn gadarn hefyd ac o fewn pum munud roedd Christoph Baumgartner yn anelu at y g么l, ond fe darodd y b锚l y bar.

Fe ddaeth y cyffro mawr wedi 24 munud wrth i'r capten Gareth Bale sicrhau cic rydd berffaith i gornel ucha'r rhwyd i roi Cymru ar y blaen.

Wedi 40 munud roedd yna fwy o bwysau gan Gymru drwy Aaron Ramsey ond roedd ei ergyd yn rhy lydan.

Cyn yr egwyl daeth hanner cyfle arall i'r t卯m cartref ond fe gafodd Aaron Ramsey ei daclo yn ddamweiniol gan Dan James.

Y sg么r ar yr egwyl 1-0 gyda'r sylwebyddion yn dweud bod g么l Gareth Bale yn "anhygoel".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd pob sylwebydd yn credu bod g么l Gareth Bale yn "anhygoel"

Roedd Robert Page wedi cyhoeddi carfan gref ar gyfer g锚m nos Iau ond nid oedd Danny Ward, Kieffer Moore, Tyler Roberts a Joe Morrell ar gael.

Doedd yna ddim newidiadau ar ddechrau'r ail hanner, a Chymru ddaeth allan yn gyntaf i'r cae, ond Awstria oedd yn ymddangos gryfaf yn y munudau cyntaf.

O fewn pum munud roedd yna gic gornel i Gymru ac roedd y cefnogwyr ar d芒n unwaith yn rhagor wrth i Gareth Bale droi a tharo p锚l rydd heibio Heinz Linder.

Cafwyd sawl ymgais arall gan Gymru yn yr ail hanner, a sawl cyfle i Daniel James sicrhau'r fuddugoliaeth, ond doedd Cymru methu manteisio.

Wedi 64 munud fe wnaeth ergyd Marcel Sabitzer wyro mewn i'r rhwyd oddi ar Ben Davies i wneud y sg么r yn 2-1, a dyna oedd y sg么r terfynol wedi cryn densiwn yn y munudau olaf.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ian Rush MBE

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ian Rush MBE

Cyn dechrau'r g锚m roedd cryn gyffro gyda chefnogwyr y cochion i'w clywed yn gweiddi o bell ac mewn stadiwm lawn roedd yna gyfle hefyd i glywed Dafydd Iwan yn canu 'Yma o Hyd'.

Bydd Cymru yn cwrdd nesaf 芒'r Alban neu Wcr谩in fis Mehefin, wedi i'w g锚m gynderfynol nhw gael ei gohirio yn dilyn ymosodiad Rwsia.