Costau byw: Galw ar y canghellor i dorri treth tanwydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i ASau eu plaid yn San Steffan i dorri treth tanwydd yn natganiad y gwanwyn yr wythnos nesaf.
Gyda chynnydd pellach mewn prisiau olew ers y rhyfel yn Wcr谩in, mae cost petrol a disel wedi codi eto.
Yn 么l Ceidwadwyr yn y Senedd, byddai toriad yn y dreth yn helpu gwarchod cyllidebau teuluoedd.
Mae llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
Ddydd Mercher nesaf, bydd y canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi datganiad y gwanwyn, sydd yn fath o gyllideb.
Erbyn nos Fercher cododd costau tanwydd i record newydd gyda litr o betrol yn costio 165.40c ar gyfartaledd a 176.76c ar gyfer litr o ddisel.
Dywedodd yr AA fod hynny'n golygu bod cost o lenwi tanc car 55 litr wedi codi, ar gyfartaledd, o 拢81.73 yng nghanol Chwefror i 拢90.97 yng nghanol Mawrth.
Er gwaethaf y gostyngiad mewn prisiau olew mae pryderon yn parhau am ddyfodol cyflenwad olew y byd.
Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol wedi rhybuddio am "sioc cyflenwad olew byd-eang" yn sgil y rhyfel a chostau nwyddau uchel.
Mae prisiau petrol yn cynnwys dwy dreth. Mae treth tanwydd, ar hyn o bryd yn 57.95c y litr, gyda TAW o 20% ar ben hynny.
Ni wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig fanylu ar ffigwr penodol, ond galw ar i dreth i gael ei ostwng wrth i brisiau gynyddu.
Dyma'r ail waith mewn pythefnos i aelodau'r blaid yng Nghymru geisio pwyso ar eu cyd-aelodau yn San Steffan.
Yr wythnos diwethaf, fe bleidleisiodd aelodau Tor茂aidd y Senedd gydag aelodau Llafur a Phlaid Cymru dros alw am fwy o weithredu i ddod 芒 ffoaduriaid Wcr谩in i'r DU.
Dywedodd Peter Fox, llefarydd y blaid ar gyllid: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod datganiad gwanwyn y Canghellor yn rhoi'r cyfle cywir i warchod cyllidebau cynyddol dynn teuluoedd a busnesau, a gallai hyn gael ei wneud gyda thorri treth tanwydd.
"Mae hwn yn ddull cytbwys sy'n rhoi rhywbeth i drethdalwyr a'r Trysorlys ill dau i helpu i oroesi'r gwyntoedd economaidd 么l-bandemig, rhywbeth sydd ei angen arnom yng Nghymru yn fwy nag yn unman ar 么l dau ddegawd o fethiant Llafur i hybu cyflogau."
Dadansoddiad Gohebydd Busnes 91热爆 Cymru, Huw Thomas
Byddai angen i unrhyw doriad i dreth tanwydd fod yn sylweddol os ydym am sylwi ar y gwahaniaeth yn y pympiau.
Er bod cost cyfanwerthu petrol wedi gostwng yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae prisiau wedi parhau i gyrraedd y lefelau uchaf erioed gyda rhai gorsafoedd yn codi 拢2 y litr.
Os bydd y cynnydd dyddiol mewn prisiau yn parhau, ni fyddai gostwng treth tanwydd o gwpl o geiniogau yn gwneud fawr o wahaniaeth i'r biliau sy'n wynebu teuluoedd a busnesau pan fyddant yn llenwi'r tanc.
Ond y canghellor sydd i bennu tollau a TAW ar danwydd, a gyda phwysau gan wleidyddion a'r cyhoedd, mae'n lifer y gallai gael ei demtio i'w dynnu yn ystod datganiad y gwanwyn.
Y Ceidwadwyr Cymreig yw'r blaid ddiweddaraf yr wythnos hon i alw am dorri treth tanwydd.
Yn Nh欧'r Cyffredin fe alwodd yr AS Ceidwadol, Jake Berry, am dorri treth tanwydd, cynnydd yng nghyfraddau milltiredd busnesau a gostyngiad i ddefnyddwyr tanwydd allweddol.
Dywedodd Mr Sunak y byddai'n cadw'r awgrymiadau mewn cof ond bod y gostyngiad mewn prisiau olew yn dangos "anwadalwch y sefyllfa yr ydym yn ei phrofi ar hyn o bryd".
'Dim sicrwydd y bydd yn cael effaith'
Mae'r AA wedi rhybuddio ei bod yn bosib na fyddai torri treth tanwydd yn cael effaith ar y pris i brynwyr.
"Efallai y bydd y canghellor yn teimlo bod torri treth tanwydd yn debygol o gael ei golli yn beth ddylai fod yn ostyngiad cyffredinol ym mhrisiau pympiau," dywedodd Luke Bosdet o'r sefydliad.
Ychwanegodd bod "ffyrdd gwerthwyr o ddod i fyny 芒 syniadau" ar sut i gynyddu prisiau'r pympiau petrol a disel yn golygu "nad oes sicrwydd y byddai gostyngiad mewn treth tanwydd yn cael ei basio 'mlaen yn ei gyfanrwydd i gwsmeriaid".
Mae Gweriniaeth Iwerddon eisoes wedi torri treth tanwydd yn gynharach yr wythnos hon o 20 cent y litr (17ceiniog) ar gyfer petrol a 15 cent (13c) i ddisel, gyda disgwyl i'r gostyngiad barhau tan fis Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd25 Medi 2021