Pryder a gobaith am ddyfodol siopau llyfrau a nwyddau

Ffynhonnell y llun, Siop Lyfrau Lewis

  • Awdur, Sara Down-Roberts
  • Swydd, 91热爆 Cymru Fyw

Mae'n unfed-awr-ar-ddeg ar siopau llyfrau a nwyddau Cymreig, medd Trystan Lewis, perchennog Siop Lyfrau Lewis yn Llandudno.

Daw ei sylwadau wedi i Aled Rees, perchennog Siop y Pethe yn Aberystwyth ddweud dros y penwythnos ei fod yntau yn ystyried dyfodol y siop gan nad yw hi bellach yn talu ffordd.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd Trystan Lewis nad yw'n rhagweld fawr o ddyfodol i'r siop ac y byddai'n beth da petai Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi cymorth ariannol er budd yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu bron i 拢136m i helpu i gefnogi adferiad canol trefi a dinasoedd.

'Ergyd i'r iaith'

Disgrifiad o'r llun, Mae cau siop lyfrau Cymraeg yn ergyd i Gymreictod ardal, medd Trystan Lewis

"Yn ddelfrydol, dylen ni fel siopau llyfrau Cymraeg aros ar ein traed ein hunain ond mae hynny yn amhosib y dyddiau 'ma," meddai.

"Yn digwydd bod mae un o brif siopau Llandudno yn symud o ganol y dre i'r cyrion ddydd Mawrth nesaf - a dwi'n rhagweld y bydd llai fyth yn dod atom wedyn.

"Mae Covid wedi chwarae ei ran wrth gwrs - gyda nifer o gwsmeriaid ddim wedi dod 'n么l ond hefyd mae 'na lai o bobl yn prynu llyfrau Cymraeg yma - yn enwedig llyfrau plant.

"Yn yr ardal yma dwi'n teimlo bod yr ysgolion wedi'u glastwreiddio a does yna ddim cymaint o ddiddordeb yn y Gymraeg ac a fu.

"Petawn ni'n cau, a dwi ddim yn gwybod am ba mor hir y gallwn ni fod ar agor i fod yn onest - dyna i chi ergyd arall i'r iaith yn y rhan yma o'r byd.

"Mae'r siop yn gwerthu llyfrau a nwyddau Cymreig - ond hefyd yn ganolfan cyfarfod i ddysgwyr a'r Cymry sy'n byw yn lleol.

"Petawn ni'n diflannu fydd yna ddim siop llyfrau Cymraeg ar y glannau wedyn - mae'r ffaith yna, dwi'n meddwl, yn ergyd i obaith Llywodraeth Cymru o gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu bron i 拢136m i helpu i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol trefi a dinasoedd ac mai strategaeth hirdymor yw Cymraeg 2050.

Ffynhonnell y llun, Siop y Pethe

Disgrifiad o'r llun, Yn ystod y penwythnos dywedodd perchennog Siop y Pethe ei fod yn poeni am ddyfodol y siop

'Fy ngyrfa gerddorol sy'n fy nghynnal'

Ychwanegodd Mr Lewis ei fod wedi bod yn freuddwyd ganddo "fel bachgen o'r ardal i gynnig siop Gymraeg a Chymreig yn Llandudno" a'i fod yn falch ei fod e a Llinos y wraig wedi gallu gwireddu'r freuddwyd honno ond ei bod hi'n anodd i'w chynnal.

"Dwi'n gerddor llawrydd ac fy ngyrfa gerddorol sy'n subsideiddio'r siop - ond tan ba bwynt y gall hynny ddigwydd, mae gen i deulu ifanc," ychwanegodd.

"Mae'r lle yn fwy na siop - mae'n ganolfan sy'n gwarchod y Gymraeg yn y rhan hon o'r byd ond am ba mor hir allwn ni aros ar agor? Wedi i ni fynd bydd pobl yn cwyno, mae'n si诺r, bod yna golled.

"Mae pobl yn hoffi'r syniad o gael siop sy'n gwerthu llyfrau a nwyddau Cymreig ond allwn ni ddim byw ar hynny.

"Roedd yna gwyno yn Y Rhyl pan y bu'n rhaid i Siop y Morfa gau - fe aeth hi 芒 thalp o'r Gymraeg ac allbwn i'r Gymraeg gyda hi.

"Defnyddiwch ni neu fe gollwch ni. Os byddwn yn cau fe fydd yn pwyso arnom ni na fydd yna siop i gynnig llyfrau a chardiau Cymraeg a nwyddau Cymreig yn yr ardal ond peidied neb cwyno pan fyddwn ni wedi mynd.

"Ar ddiwedd y dydd does yr un busnes yn disgwyl cardod na chydymdeimlad. Os nad oes marchnad i'r busnes arbennig yna - wel diflanned yn de ond mi all y cyfan gael effaith ar barhad yr iaith Gymraeg."

'Yr iaith yn perthyn i bawb'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein gweledigaeth ar gyfer ein hiaith yn allblyg ac yn gynhwysol ac rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom ni.

"Strategaeth hirdymor yw Cymraeg 2050 sy'n datgan map ffordd a gweledigaeth ar gyfer creu dinasyddion dwyieithog sydd 芒'r gallu a'r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Rydyn ni'n cydnabod yn llwyr bod pandemig Covid wedi cael effaith fawr ar y stryd fawr a busnesau bach ledled Cymru, a dyna pam, ers dechrau'r pandemig, ein bod wedi ymrwymo mwy na 拢2.5 biliwn i fusnesau ledled Cymru, yn ychwanegol at ein cefnogaeth arferol drwy Busnes Cymru.

"Gyda'i gilydd, mae hyn wedi helpu i amddiffyn miloedd o gwmn茂au a diogelu llawer mwy o swyddi.

"Rydyn ni'n cydnabod yr amgylchiadau heriol y mae busnesau wedi'u hwynebu o ganlyniad i'r pandemig, a dyma pam na fydd raid i'r rhai yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022.

"Yn ogystal, mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu bron i 拢136m i helpu i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol ein trefi a'n dinasoedd."

Agor siop yn Llanelli

Mae'r stori braidd yn wahanol yng Nghaerfyrddin wrth i Siop y Pentan agor siop newydd yn Llanelli yn sgil y galw.

Ffynhonnell y llun, Siop y Pentan

Disgrifiad o'r llun, 'Mae Siop y Pentan newydd agor yn Llanelli yn sgil y galw'

"Ond dwi'n prysuro i ddweud mai g'neud bywoliaeth ma' rhywun mewn siop lyfrau a nwyddau Cymreig," medd Llio Davies sydd bellach wedi trosglwyddo'r busnes i'r mab hynaf.

"Does yna ddim elw mawr - yr hyn sy'n bwysig i ni yw cadw arian yn yr ardal, cefnogi crefftwyr lleol a chyflogi pobl leol.

"Roedd o'n bwysig i ni fel teulu gadw Siop y Pentan am ei bod yn fusnes teuluol - mae'n hanner cant a dwi'n falch r诺an fy mod i wedi trosglwyddo'r busnes a oedd yn eiddo i deulu'r g诺r i'r genhedlaeth nesaf.

"'Dan ni wedi bod yn reit lwcus yn ystod cyfnod Covid - wedi gwerthu tipyn ar y we. Mae'n lleoliad ni yn y farchnad hefyd yn un hwylus dwi'n meddwl.

"Be sylwon i o'dd bod pobl yn dod i Gaerfyrddin o Lanelli am fod y siop Gymraeg yno wedi cau ers sawl blwyddyn ac roedd yna alw am siop arall.

"Dan ni'n gwerthu llawer o bethau ac hyd yma yn denu cwsmeriaid lleol ac ymwelwyr. Mae 'na gryn alw am lyfrau Cymraeg yma.

"Ond fel dwi'n dweud g'neud bywoliaeth ma' rhywun, cefnogi pobl leol - nid g'neud elw anferth."