91热爆

S4C: Penodi dau brofiadol i ymateb i'r her ddigidol

  • Cyhoeddwyd
Llinos Griffin-Williams a Geraint EvansFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llinos Griffin-Williams fydd prif swyddog cynnwys y sianel, a Geraint Evans yn gyfarwyddwr strategaeth cynnwys a chyhoeddi

Mae S4C wedi penodi dau uwch-swyddog newydd wrth wynebu'r her o droi'n wasanaeth digidol ar sawl llwyfan.

Mae Llinos Griffin-Williams wedi ei phenodi'n brif swyddog cynnwys y sianel, a Geraint Evans yn gyfarwyddwr strategaeth cynnwys a chyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod y ddwy swydd yn allweddol wrth i'r sianel newid o fod yn ddarlledwr llinol (linear) i fod yn wasanaeth sydd ar gael ar sawl llwyfan digidol.

Ychwanegodd y bydd y ddau yn allweddol wrth i S4C fynd ati i gynllunio'r gwaith trawsnewid fydd yn dod yn sgil y setliad ariannol diweddar.

Profiad helaeth yn y maes

Ar hyn o bryd mae Ms Griffin-Williams yn gyfarwyddwr creadigol cwmni cynhyrchu annibynnol Wildflame, o Gaerdydd, lle bu'n arwain ar ddatblygu cynnwys rhyngwladol gyda chytundebau gan ddarlledwyr byd-eang.

Bydd Mr Evans, sydd ar y funud yn gyfarwyddwr cynnwys dros dro, yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth gyhoeddi aml-lwyfan er mwyn sicrhau fod cynnwys yn cael ei gomisiynu ar gyfer wahanol rannau o gynulleidfaoedd S4C ac yn cael ei gyfleu ar y llwyfannau mwyaf addas.

Mae ganddo brofiad helaeth ym maes newyddiaduraeth teledu, wedi derbyn gwobr Bafta Cymru am y rhaglen newyddion a materion cyfoes orau nifer o weithiau ac wedi ennill yr un gydnabyddiaeth o'r 糯yl Cyfryngau Celtaidd.

Bydd y ddau yn dechrau yn eu swyddi newydd yn gynnar ym mis Ebrill.

Pynciau cysylltiedig