91热爆

Rhyfel o gamwybodaeth a 'newyddion ffug' yn Rwsia

  • Cyhoeddwyd
RT yn FfraincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darllediad byw olaf i rwydwaith RT France ar 2 Mawrth yn dilyn penderfyniad yr UE i wahardd y sianel yn Ewrop

Mae sianel newyddion Rwseg RT wedi diflannu o bob llwyfan darlledu yn y Deyrnas Unedig.

Mae mynediad y DU i'r rhwydwaith teledu - Russia Today gynt - wedi'i effeithio gan waharddiad a osodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Er nad yw'r DU bellach yn yr UE, gosodwyd sancsiynau ar gwmn茂au lloeren yn Lwcsembwrg a Ffrainc, a ddarparodd RT i Sky, Freesat a Freeview.

Dywedodd RT bod "ffas芒d y wasg rydd yn Ewrop wedi dadfeilio o'r diwedd".

Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Nadine Dorries, sydd wedi disgrifio'r sianel fel "peiriant propaganda llygrol Putin", ei bod yn gobeithio na fyddai'n dychwelyd i sgriniau'r DU.

Mae'r newyddiadurwr Arwel Ellis Owen wedi treulio amser yn hyfforddi newyddiadurwyr ar draws y byd, gan gynnwys yn Rwsia.

Bu yno yn yr 1990au ar gomisiwn yn ymweld 芒 27 o orsafoedd radio lleol, annibynnol ledled y wlad - o St Petersburg yn y gorllewin i Vladivostok yn y dwyrain - gan hyd yn oed gyfarfod Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

"Y pwrpas oedd gweld faint o adnoddau a faint o gymorth oedd ei angen ar y gorsafoedd radio lleol yma," meddai wrth Dros Frecwast.

"Y pwrpas oedd trio sicrhau bod yna lais annibynnol oherwydd mae RT yn wasanaeth cenedlaethol i'r wladwriaeth.

"Weithies i yn fanno am bythefnos a chwarfod Putin a oedd yn gyfrifol am yr orsaf yn St Petersburg ar y pryd."

'Ddim yn clywed yn wahanol'

Ychwanegodd fod dylanwad RT yn gryf iawn yn Rwsia hyd yn oed bryd hynny, a bod hynny yr un mor wir heddiw.

"Mae gynnoch chi'r double squeeze mewn gwirionedd - yn gyntaf cau lawr lleisie' annibynnol ac yn ail mae'r holl wybodaeth sy'n dod allan o Rwsia yn cael ei reoli felly mae ffug newyddion yn dod yn newyddion gwir i rhan fwyaf o bobl yn Rwsia oherwydd dydyn nhw ddim yn clywed yn wahanol.

"Yr unig amod ar ymweld 芒 27 o orsafoedd oedd bod yn rhaid i mi dreulio pythefnos yn stafell newyddion RT yn St Petersburg.

"Doedd gan [RT] ddim diddordeb o gwbl yn egwyddorion newyddion, dim ond sut i gasglu newyddion yn sydyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arwel Ellis Owen OBE wrth ei gyfrifiadur yn 1983 - bu'n ymweld 芒 Rwsia yn y 90au

"Dwi'n cofio cael y sgwrs yma un bore gyda golygydd yr orsaf radio a trio dadlau fod yn rhaid credu fod gwirionedd yn y system rywsut, a hygrededd yn y gynulleidfa.

"Yn eistedd yn y cefn oedd y g诺r 'ma yn d'eud dim byd, ond ar ddiwedd y cyfweliad dyma gyflwyno fi i Putin, 'he is the local minister in charge of broadcasting'. Dyma ysgwyd llaw Putin a dyna ddiwedd hi.

"Roedd ganddo fo gefndir yn y gwasanaeth cudd yn amlwg a dylanwad cryf yn yr orsaf yma oedd yn gwbl wahanol i'r 27 eraill.

"Roedden nhw [y 27 arall] yn mynnu at egwyddorion sylfaenol darlledu cyhoeddus."

'Trio rhoi gwirionedd'

Yn y cyfamser, mae dros filiwn o bobl bellach wedi ffoi o Wcr谩in, yn 么l y Cenhedloedd Unedig.

Mae'r llys troseddau rhyngwladol bellach yn cynnal ymchwiliad i ystyried a yw Rwsia yn cyflawni troseddau rhyfel.

Ond mae'r hyn sy'n cael ei ddweud wrth bobl gyffredin Rwsia yn debygol o fod yn wahanol iawn i'r hyn wyddom ni am y rhyfel.

"Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu cau lawr - mae hynny'n weddol glir," ychwanegodd Mr Owen.

"Dydi hynny ddim yn dod yn sioc i mi oherwydd roedd yr unigolion yma oedd yn arwain y 27 gorsaf nesh i ymweld 芒 nhw yn unigolion oedd yn credu y dylai fod 'na wasanaeth pwysig i roi i'r werin bobl, pobl h欧n.

Disgrifiad,

Steffan Warren: "Does 'na neb yn Rwsia yn cefnogi beth sy'n digwydd"

"Hefyd o ran maint Rwsia mae'n anodd iawn cysylltu un rhan i'r llall ac felly mae radio lleol yn eithriadol o bwysig.

"Roedden nhw'n cael eu hariannu gan gynllun ffeirio - bartering - doedd 'na ddim pres o gwbl, ond oes oeddech chi isio hysbysebu oeddech chi'n dod efo llond llwyth o datws, er enghraifft.

"Neu os oeddech chi isio wbath arall oeddech chi'n cynnig talu am drydan i'r orsaf am wythnos neu be bynnag.

"Model anhygoel o ddarlledu cymunedol ac mae'n drist bod rhain yn cael eu cau lawr nawr oherwydd eu bod nhw'n trio - o leia' - rhoi peth gwirionedd yn y system."

Fis diwethaf, cyhoeddodd cyn-Brif Weinidog Yr Alban, Alex Salmond ei fod wedi gohirio ei sioe siarad ar sianel RT yn sgil yr ymosodiad ar Wcr谩in.