Wcráin: 'Nonsens sôn am fisas pan fo cymaint yn ffoi'

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae dros 500,000 o bobl wedi ffoi o Wcráin ers dechrau'r gwrthdaro yr wythnos ddiwethaf

Mae'r Deyrnas Unedig "ar ei hôl hi o hyd" o ran cynnig lloches i ffoaduriaid sy'n ffoi rhag ymgyrch filwrol Rwsia yn Wcráin, yn ôl cyn-lefarydd y Blaid Lafur ar ddatblygu rhyngwladol.

Dywedodd Ann Clwyd, fu'n Aelod Seneddol dros Gwm Cynon am 35 mlynedd nes 2019, mai "nonsens ydy sôn am fisas ar hyn o bryd pan fo cymaint o bobl yn ffoi".

Mae'r llif o bobl gyffredin Wcráin sy'n gadael y wlad yn parhau, gyda'r Cenhedloedd Unedig yn dweud fod dros 500,000 o bobl wedi ffoi rhag y brwydro ers dechrau'r gwrthdaro.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi ehangu'r rheolau fisa fel bod modd i bobl o Wcráin gael lloches yma os oes ganddyn nhw deulu sy'n ddinasyddion Prydeinig.

Ond i unrhyw un o Wcráin sydd heb deulu yn y DU, maen nhw'n gorfod gwneud cais trwy system fewnfudo arferol Llywodraeth y DU.

Mae Llafur wedi beirniadu'r rheolau fisa fel rhai "aneglur" a "dryslyd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd yr ysgol yma ar gyrion Kharkiv - ail ddinas fwyaf Wcráin - ei dinistrio gan luoedd Rwsia

"Mae pobl yn ceisio agor ffiniau, a gadael iddyn nhw ddod drosodd, ond mae'r wlad yma ar ei hôl hi o hyd mae gen i ofn," meddai Ms Clwyd ar Dros Frecwast fore Mawrth.

"Ro'n i'n gwrando ddoe ar y ddadl yn NhÅ·'r Cyffredin - mae'r mwyafrif o bobl isio bod yn groesawgar iawn ac agor pethau i fyny i'r ffoaduriaid, ond dydy hi ddim yn glir iawn o hyd be' 'di'r rheolau.

"Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi'n bosib i unrhyw un ddod drosodd yma o'r wlad.

"Ond pan mae pobl yn ceisio gwneud hynny - pobl mewn oed, mamau - mae pobl yn dod cyn belled â Ffrainc, ond methu dod drwy'r twnnel oherwydd bod dim fisa ganddyn nhw.

"Nonsens ydy sôn am fisas ar hyn o bryd pan fo cymaint o bobl yn ffoi.

"Dwi'n gobeithio dros yr oriau nesa' 'ma y bydd pwysau Aelodau Seneddol yn newid agwedd Priti Patel, er bod hynny'n reit anodd."

Pryder teulu o Gorwen

Disgrifiad o'r fideo, Dylan Ellis Jones a'i wraig Gulzara yn siarad â Dan Davies

Mae un teulu o Gorwen wedi cael anhawster mawr wrth geisio dod â pherthnasau yn ôl i Gymru.

Dywed Dylan Ellis Jones, sydd â'i wraig, Gulzara yn dod o Wcráin, fod y system fisa bresennol yn hynod o ddryslyd.

Wrth i fyddinoedd Rwsia barhau i ymosod mae yna amcangyfrif fod 660,000 o ffoaduriaid wedi gadael Wcráin.

Roedd Mr Jones wedi gobeithio dod â chwaer ei wraig a'i nai yn ôl i Gymru ond oherwydd yr ansicrwydd wrth geisio am fisa mae hi wedi gorfod mynd i'r Almaen.

Ffynhonnell y llun, Senedd y DU

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ann Clwyd fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gosod rhwystrau i ffoaduriaid ers tro

Mae Ms Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, wedi dweud nad yw hi am gael gwared ar y rheolau fisa i bobl o Wcráin oherwydd rhesymau diogelwch, a bod pryder fod lluoedd Rwsia yn ffugio bod yn Wcrainaidd.

Ond ym marn Ms Clwyd, mae Llywodraeth y DU wedi gosod rhwystrau i ffoaduriaid rhag cael mynediad i'r wlad ers tro.

"Dwi'n meddwl bod y wlad yma, yn anffodus, dros y blynyddoedd diwetha' 'ma, wedi bod yn gyndyn iawn - fel yn achos Afghanistan - i adael ffoaduriaid yma," meddai.

"Dim ots pa mor gryf mae pobl y wlad yma yn awyddus i'w croesawu nhw - 'da ni 'di gweld yng Nghymru, mae Aelodau'r Senedd wedi dweud bod croeso mawr i ffoaduriaid yn y wlad yma.

"Ond mae'n rhaid i'r llywodraeth - y Swyddfa Gartref yn bennaf - fod yn glir iawn ac yn amlwg yn groesawgar, yn lle hel rhwystrau bob tro yn eu herbyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl wedi synnu at gryfder y gwrthwyneb gan bobl gyffredin Wcráin, meddai Ann Clwyd

Mae llawer o wledydd Ewropeaidd, yn enwedig Gwald Pwyl, Hwngari a Moldofa - gwledydd sydd â ffiniau ag Wcráin - wedi llacio eu rheolau mewnfudo er mwyn croesawu'r rheiny sy'n ffoi rhag yr ymosodiad gan Rwsia.

"Dwi'n meddwl bod pawb wedi synnu at gryfder y gwrthwyneb - y bobl sy'n aros yn Wcráin ac yn dal i wrthwynebu," meddai Ms Clwyd.

"'Dan ni wedi gweld y lluniau ofnadwy o famau a phlant ifanc yn aros am oriau yn eu ceir, ac wedyn yn gorfod cerdded y 12 milltir ddiwethaf i'r ffin.

"Mae'r ffaith bod y Pwyliaid wedi bod mor groesawgar - dwi'n meddwl fod pawb wedi synnu braidd at hynny - ac yn ceisio eu helpu nhw ym mhob ffordd bosib.

"Mae'r sefyllfa yn ofnadwy."

Dywedodd Ms Patel wrth Dŷ'r Cyffredin ddydd Llun y byddai ehangu'r rheolau fisa i gynnwys pobl o Wcráin sydd â theulu yn y DU yn galluogi iddynt "geisio loches" yma.

Ychwanegodd y Prif Weinidog Boris Johnson na fydd y DU yn "cefnu ar Wcráin yn eu cyfnod o angen".