Wcráin: Mwy o ralïau yn cael eu cynnal yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhagor o ralïau'n cael eu cynnal yng Nghymru i ddangos cefnogaeth i Wcráin yn dilyn goresgyniad Rwsia.
Ddydd Sul, mae ralïau yn cael eu cynnal yn Abertawe, Aberystwyth a Chaerdydd, wrth i'r brwydro yn Wcráin barhau.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi ailddatgan ei fwriad i Gymru gynnig noddfa i bobl sy'n ffoi o'r wlad.
Ddydd Sadwrn, daeth dros 200 o bobl at ei gilydd yng Nghaernarfon i ddangos eu cefnogaeth a lleisio'u barn yn erbyn ymdrechion Rwsia.
Enw digwyddiad dydd Sul yn y Mwmbwls, Abertawe ydy 'Sefyll gydag Wcráin' a dywedodd y trefnwyr, Llais Wcráin Cymru: "Gyda'n gilydd rydym yn gryf."
Brynhawn Sul bydd rali arall ym Mharc Bute yn y brifddinas.
'Chwarae ein rhan eto'
Dywedodd Mr Drakeford wrth y 91Èȱ¬ y byddai gweinidogion Cymru yn cyfarfod â'u cymheiriaid yn y DU i "gynllunio gyda'n gilydd ar gyfer y camau y gallwn eu cymryd i helpu'r bobl hynny fydd yn edrych i ailadeiladu" eu bywydau oherwydd y goresgyniad.
"Mae gan Gymru uchelgais i fod yn genedl noddfa," meddai.
"Rydyn ni wedi ceisio dangos hynny mewn perthynas â ffoaduriaid o Syria a ffoaduriaid o Afghanistan.
"A byddwn ni eisiau chwarae ein rhan eto, wrth i'r darlun ddatblygu ac wrth i ni weithio gyda llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig."
Mae pobl yn cael eu hannog i gynnau cannwyll mewn undod yn ddiweddarach gan weinidog Llywodraeth Cymru Mick Antoniw, sydd â theulu yn Wcráin.
Fe gymerodd rhan mewn dirprwyaeth i Wcráin, a oedd yn cynnwys arweinydd Plaid Cymru Adam Price.
Dywedodd Mr Price wrth Sunday Supplement fod prifddinas Wcráin, Kyiv, yn "ddinas dan warchae" mewn golygfeydd "y tu hwnt i unrhyw ddychymyg".
Dywedodd fod gan bobl y wlad "ymdeimlad anhygoel o benderfyniad" a bod y rhai y cyfarfu â nhw wedi dweud wrtho "waeth pa mor hir mae'n ei gymryd, fe fyddwn ni'n ennill".
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds: "Mae Prydain a Chymru yn groesawgar; maen nhw eisiau gwneud eu rhan i helpu pobl Wcráin sy'n ffoi o'r gwrthdaro."
Mae Ysgrifennydd Tramor y DU Liz Truss wedi dweud wrth y 91Èȱ¬ "ein bod ni'n edrych ar frys i weld beth arall allwn ni ei wneud" i helpu ffoaduriaid o Wcráin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2022