Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caernarfon yn cynnal rali i ddangos undod â Wcráin
Bu pobl yn cymryd rhan mewn rali yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn i ddangos undod gyda Wcráin wrth i ymosodiadau Rwseg gyrraedd y brifddinas.
Daw'r brotest - gyda thua 200 o bobl yn bresennol - ar ôl i ymosodiadau ar Kyiv wynebu gwrthwynebiad ffyrnig.
Dywedodd Archesgob Cymru Andy John ei fod yn rhannu "dicter" pobl.
"Mae'n rhaid i ni barhau i brotestio nad yw'r hyn rydyn ni'n ei weld yn dderbyniol," meddai mewn cyfweliad gyda 91Èȱ¬ Cymru cyn y rali ddydd Sadwrn.
"Roedd y weithred ymosodol hon heb ei chythruddo, ac mae hynny wedi dod â'r math o ansicrwydd i Ewrop yr oeddem ni i gyd yn meddwl, yn teimlo ac yn gobeithio ei fod wedi mynd ers amser maith.
"Nid oes angen iddo fod yn gylch diddiwedd o ryfel ac o bŵer gan y cryf yn erbyn y gwan."
'Gadewch lonydd i ni'
Dywedodd Nataliia Roberts, sy'n wreiddiol o ddinas Poltava yn Wcráin, ei bod yn teimlo'n "erchyll" ac yn "anobeithiol".
"Mae fy ffrindiau, fy nheulu, i gyd yn cael trafferthion," meddai, wrth siarad o'r rali brynhawn Sadwrn.
"Maen nhw'n gofyn am help, mae eu tai dan ymosodiad. Maen nhw'n ddieuog, dydyn nhw ddim eisiau'r rhyfel yma."
Dywedodd Ms Roberts fod yr Wcráin yn "fawr ac yn ddewr". "Maen nhw eisiau i Putin stopio," meddai.
"Stopiwch hyn os gwelwch yn dda. Nid oes ei angen arnom. Gadewch lonydd i ni."
Dywedodd Svetlana Hemminki-Emlyn, sy'n wreiddiol o Rwsia: "Am y tro cyntaf yn fy mywyd mae gen i gywilydd fy mod i'n Rwseg.
"Rwy'n erbyn y rhyfel hwn, rwy'n erbyn Putin. Rwyf bob amser wedi bod yn erbyn Putin.
"Alla i ddweud na fydd Putin yn stopio yn Wcráin. Os ydy rhywun yn meddwl bod hwn yn rhyfel lleol, dydy o ddim."
Mae Gareth Roberts o Drawsfynydd, a oedd yn y brotest yng Nghaernarfon, yn treulio hanner y flwyddyn yn Wcráin ac yno mae rhai aelodau o'i deulu yn byw.
"'Da ni'n ddiolchgar iawn bod y brotest 'ma wedi cael ei gynnal," meddai.
"Ydyn, maen nhw [pobl Wcráin] yn ymdrechu [i wrthsefyll]. Ma' fy mab yng nghyfraith... mae'n rhaid iddo fo aros ond 'da ni'n ystyried dod â merch fy ngwraig a'r wyres i Slofacia os ydy hynna'n bosib."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Dywedodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon ac un o drefnwyr y rali ddydd Sadwrn: "Dwi a Liz [Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd] yma i ddangos ein cefnogaeth i bobl Wcráin a galw am ddiwedd i'r rhyfel.
"Ma'n eithriadol o anodd ac yn beryglus iawn nid yn unig i bobl Wcráin ond i'r byd yn gyfan wrth i ni weld 'falla dechrau'r Rhyfel Oer eto.
"Ond mae'n bwysig i bobl yn Gaernarfon 'ma gael bod allan yma a dangos eu hochr."
Cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener y bydd Cymru yn croesawu ffoaduriaid o Wcráin.
Yn y cyfamser, mae Mick Antoniw, cwnsler cyffredinol Llywodraeth Cymru ac Aelod o'r Senedd dros Bontypridd yn gwahodd pobl ledled Cymru i gynnau cannwyll nos Sul.
"Mae cynnau cannwyll yn ffordd syml o ddangos undod; i adael i bobl yr Wcráin wybod eu bod nhw yn ein meddyliau a'n bod ni ar eu hochr nhw," meddai Mr Antoniw.
Dychwelodd i Gymru ddydd Mawrth ar ôl cymryd rhan mewn dirprwyaeth i Wcráin, lle mae ganddo deulu.