91热爆

Beirniadu ymweliad Adam Price a Mick Antoniw ag Wcr谩in

  • Cyhoeddwyd
Fe deithiodd Adam Price a Mick Antoniw i'r Wcrain dros y penwythnos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe deithiodd Adam Price a Mick Antoniw i Wcrain dros y penwythnos

Mae'r Swyddfa Dramor wedi mynegi "pryder dwys" am ymweliad diweddar arweinydd Plaid Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol i Wcr谩in.

Er gwaethaf cyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio 芒 theithio i'r wlad, fe gyrhaeddodd Adam Price a Mick Antoniw y brifddinas Kyiv ddydd Sadwrn, gan ddychwelyd i'r DU ddydd Mercher.

Fe ysgrifennodd Amanda Milling, Gweinidog yn y Swyddfa Dramor, at Blaid Cymru a Llafur Cymru er mwyn "tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa", gan eu cynghori i "adael Wcr谩in ar unwaith".

Mae'r ddau wleidydd o Gymru wedi amddiffyn y daith, gyda Mr Antoniw yn dweud bod rhai yn eu beirniadu i "geisio tynnu sylw" oddi wrth sancsiynau "gwan" sydd wedi eu gweithredu.

Yn y llythyrau sydd wedi'u gweld gan y 91热爆, dywed Ms Milling: "Mae'r Swyddfa Dramor wedi bod yn cynghori yn erbyn teithio i'r Wcr谩in ers yr 11eg o Chwefror ac yn argymell y dylai unrhyw Brydeinwyr yn y wlad adael nawr.

"Mae'r cyngor yma yr un mor berthnasol i Aelodau Seneddol ac i Aelodau o Senedd Cymru."

Yn ysgrifennu ar 21 Chwefror, mae hi'n gofyn i'r pryderon yma gael eu pasio ymlaen i Mr Price a Mr Antoniw, oedd yn y wlad am bedwar diwrnod.

"Dwi eisiau tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa: rydym wedi symud staff y llysgenhadaeth allan o Kyiv dros dro ac yn pwysleisio y byddai unrhyw ymosodiad milwrol gan Rwsia yn Wcr谩in yn effeithio yn fawr ar allu Llywodraeth Prydain i ddarparu cymorth gonsylaidd i unrhyw Brydeinwyr yno.

"Mae'r sefyllfa ar lawr gwlad yn ansefydlog ac yn newid yn gyflym."

'Gwrando ar y bobl'

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi amddiffyn yr ymweliad gan ddweud ei fod yno i "ddangos cefnogaeth" wrth i bryder am ymosodiad gan Rwsia gynyddu.

Dywedodd Adam Price nad oedd yno ar ran y blaid, a'i fod wedi talu am y daith "o'i boced ei hun".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe deithiodd Adam Price a Mick Antoniw i Wcrain dros y penwythnos

Mae teulu Mick Antoniw yn dod o Wcr谩in ac fe ddywedodd "mewn gormod o drafodaethau am y sefyllfa yn yr Wcr谩in, y bobl eu hunain sy'n cael eu hanwybyddu".

"'Da ni eisiau gwrando ar beth sydd gan bobl Wcr谩in i'w ddweud a dangos ein cefnogaeth iddyn nhw," meddai.

"'Da ni'n sefyll gyda nhw a'u hawl i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain."

Wrth siarad mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart bod y llythyr yn "llym iawn".

'Ceisio tynnu sylw'

Dywedodd Mr Antoniw ei fod yn y wlad mewn r么l "answyddogol" a "phersonol".

Roedd "llawer o feirniadaeth yn Wcr谩in bod Llywodraeth y DU wedi gadael yn llawer rhy gynnar", meddai, a bod "pob mudiad a phob person" yn falch o'u gweld er mwyn gallu dangos beth sy'n digwydd.

Dywedodd bod beirniadaeth yn "fodd pathetig o geisio tynnu sylw oddi wrth beth yw'r mater difrifol yn y Blaid Geidwadol, sef pa mor wan ydy'r sancsiynau sydd wedi eu gweithredu".

Ychwanegodd ei fod wedi derbyn ceisiadau gan ei deulu yn y wlad am gymorth i adael, gan ddweud bod angen "dechrau'r paratoadau i gefnogi ceiswyr lloches".

Roedd Mr Price wedi teithio er mwyn dangos "cefnogaeth" i bobl yr Wcr谩in a chael darlun o'r "sefyllfa ar lawr gwlad", meddai Plaid Cymru.

Ychwanegodd y llefarydd bod gwybodaeth am ddifrifoldeb y sefyllfa wedi dod i'r amlwg ddydd Llun, a bod y gr诺p wedi gadael y wlad y diwrnod canlynol.