Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun gofod i ddod â £2bn y flwyddyn i economi Cymru
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 91Èȱ¬ Cymru
Mae cynlluniau i lansio rocedi ar y môr ac adeiladu lloerennau a fydd yn gweithredu fel ffatrïoedd bach yn rhan o strategaeth newydd i hybu diwydiant gofod Cymru.
Y gobaith yw y bydd y sector yn dod â £2bn y flwyddyn i economi Cymru erbyn 2030.
Dywedodd y gofodwr Prydeinig, Tim Peake, ei fod yn "falch iawn" gyda'r cynigion.
Ond dywedodd un cwmni sydd wedi ei gynnwys yn strategaeth Llywodraeth Cymru fod gwledydd eraill o faint tebyg yn "gwneud llawer iawn mwy, yn llawer cyflymach".
Mae'r gofod wedi bod ymhlith y sectorau sydd wedi tyfu gyflymaf yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gyflogi 42,000 o bobl.
Dim ond 1% ohonynt sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ond mae gweinidogion yn honni bod y wlad mewn sefyllfa dda i ddod yn "hafan ar gyfer gwaith arloesol y diwydiant gofod".
Maent am roi ffocws arbennig ar fentrau gofod sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Mae cwmni Space Forge o Gaerdydd yn un enghraifft wrth i'r cwmni fwriadu lansio lloeren arloesol y gellir ei hailddefnyddio i orbit yn hwyrach eleni - un y gellir ei hanfon i fyny, ei dwyn i lawr ac yna ei hanfon yn ôl i fyny dro ar ôl tro.
Os bydd yn llwyddiannus, dyma fydd y loeren gyntaf i gael ei gwneud yn gyfan gwbl yng Nghymru ac mae'r cwmni'n gobeithio defnyddio'r rhai sy'n dilyn ar gyfer gweithgynhyrchu yn y gofod.
Mae hynny'n golygu manteisio ar amodau yn y gofod fel tymereddau isel iawn a diffyg disgyrchiant i wneud deunyddiau newydd y mae'r cwmni'n dweud a allai ein helpu i symud tuag at ddyfodol carbon isel ar y Ddaear.
Dywedodd y prif weithredwr, Joshua Western, fod y cwmni'n gobeithio ehangu o 30 i 100 o staff erbyn 2024, gan ddisgrifio strategaeth ofod newydd Cymru fel "carreg filltir bwysig a fydd yn helpu i fywiogi'r diwydiant".
Roedd y seilwaith sydd eisoes yn ei le ar hyd arfordir Cymru - fel y maes tanio milwrol yn Aberporth yng Ngheredigion - yn ddelfrydol ar gyfer dychwelyd y lloerennau o orbit, meddai.
Ochr yn ochr ag Aberporth, bydd maes tanio Maesyfed ym Mhowys, Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin a maes awyr Llanbedr yng Ngwynedd - cartref Spaceport Eryri - i gyd yn rhan o brofi a gwerthuso technolegau gwyrddach newydd ar gyfer lansio gwrthrychau i'r gofod, yn ôl strategaeth y llywodraeth.
Mae ymdrechion i gydlynu a hyrwyddo ymchwil yn y maes ymhlith prifysgolion Cymru hefyd ar y gweill - gan gynnwys defnyddio data lloeren i fonitro'r amgylchedd a helpu gyda materion megis ymsuddiant tomenni glo.
"Rhaid i ni gofio bod hyn i gyd yn ymwneud â thrwsio heriau ar y Ddaear," esboniodd Alan Davies, rheolwr datblygu Gofod Cymru - sefydliad a gafodd ei greu i helpu i gyflawni'r strategaeth newydd.
"O heriau cyfathrebu i rai amgylcheddol, gall y problemau hyn i gyd gael eu gwella trwy ddefnyddio data ac adnoddau gofod," meddai.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, fod y strategaeth hefyd yn anelu at ddod â "swyddi medrus â chyflog da yn agosach at gartref, gan ledaenu ffyniant ar draws Cymru.
"Mae'r sector cyffrous hwn hefyd yn cynnig agwedd newydd ar fynd i'r afael â newid hinsawdd ac mae'n cyd-fynd yn berffaith â'n ffocws ar ynni glân a'r agenda gwyrdd ehangach," meddai.
'Y gofod ddim ar gyfer gwledydd mawr yn unig'
Mae cenhedloedd llai fel Cymru yn gwneud eu marc o ran y sector gofod, esboniodd Dr Bleddyn Bowen, o Brifysgol CaerlÅ·r.
"Yn wahanol i 40 mlynedd yn ôl, nid yw'r gofod ar gyfer y gwledydd mawr yn unig," meddai'r arbenigwr mewn polisi gofod.
"Naill ai wrth wneud cydrannau ar gyfer lloerennau neu gwerthu gwasanaethau yn seiliedig ar y data a gasglwyd ganddynt, mae llawer o economïau bach yn gwneud mwy a mwy yn y gofod heddiw," meddai.
Ond er bod strategaeth y llywodraeth yn ymddangos fel dogfen "uchelgeisiol iawn" nid oes ganddi unrhyw gyhoeddiadau ariannu sylweddol, awgrymodd.
Yn y cyfamser, mae Black Arrow Space Technologies - cwmni arall sydd wedi'i gynnwys yn y strategaeth - yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn ei chefnogaeth i'r sector.
Mae'r cwmni'n gobeithio sefydlu canolfan ym Mhort Talbot yn ddiweddarach eleni, gyda'r nod o lansio priflwythi o hyd at 500Kg i orbit oddi ar fwrdd llong wedi'i ddylunio yn arbennig.
Bydd hwn yn ddull hollol wahanol i unrhyw system arall o lansio roced neu loeren ledled y DU - sydd i gyd yn lansio ar y tir.
Dywedodd Paul Williams, prif weithredwr y cwmni: "Rwyf bob amser wedi dweud bod gan Gymru ran fawr i'w chwarae yn sector gofod y Ddeyrnas Unedig.
Ond mae'n eitha rhwystredig pan edrychwn ar wledydd eraill sy'n ymddangos fel pe baent yn gwneud llawer iawn mwy, yn llawer cyflymach," meddai.
Ond, mae cynigion y llywodraeth wedi ennill cefnogaeth un enw mawr, y gofodwr Tim Peake.
"Mae gan gofod y gallu i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau'r dyfodol, yn ogystal â bod wrth galon datrys rhai o heriau caletaf heddiw," meddai.
"Mae technoleg ac arloesi yn allweddol i dyfu ein heconomi gyda gweithlu medrus ac rwy'n falch iawn o weld bod Cymru'n croesawu'r cyfleoedd cyffrous sydd gan y sector gofod i'w cynnig."
Mae sector gofod y DU wedi gosod targed yn y gorffennol o gyflawni cyfran o 10% o'r farchnad ofod fyd-eang flynyddol a ragwelir o fod yn cyrraedd £400bn erbyn 2030.
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw i Gymru sicrhau cyfran o 5% o gyfran y DU.
Byddai hynny'n cyfateb i £2bn y flwyddyn i economi Cymru.