Cyhoeddi £500,000 tuag at lansio rocedi o Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae gweld rocedi'n lansio o Eryri gam yn nes wedi i Asiantaeth Ofod y DU gyhoeddi £500,000 o gyllid ar gyfer sefydlu canolfan ofod yno.
Bydd yr arian yn mynd tuag at ganolfan ym maes glanio Llanbedr ar gyfer ymchwil a lansio lloerennau a dronau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi £135,000 tuag at gynllun i brofi dronau, awyrennau trydan ac awyrennau gofod ar y safle.
Fe wnaeth adroddiad i Gyngor Gwynedd yn 2017 amcangyfrif y byddai'n costio £25m i droi'r maes glanio yn ganolfan awyrofod.
Lansio'n llorweddol
Yn 2018 cafodd Sutherland yn Yr Alban ei ddewis yn hytrach na'r safle yng Nghymru i fod yn faes rocedi cyntaf y DU i lansio rocedi yn syth am i fyny.
Ar y pryd fe wnaeth Asiantaeth Ofod y DU gyhoeddi nawdd datblygu £2m ar gyfer safleoedd eraill, gan gynnwys i gyn-safle'r Awyrlu yn Llanbedr er mwyn lansio rocedi'n llorweddol.
Mae cwmni B2Space hefyd wedi derbyn £100,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu safle yng Nghasnewydd a defnyddio maes glanio Llanbedr i ddatblygu balwnau er mwyn lansio lloerennau.
Daw'r cyhoeddiadau wrth i gynhadledd ofod y DU gael ei chynnal dros dri diwrnod yng Nghasnewydd.
Mae rhwystredigaeth wedi bod gan rai yn y diwydiant, sy'n dweud bod rhaglen ofod Llywodraeth y DU yn symud yn rhy araf.
Ond yng Ngwynedd mae pryder wedi bod yn lleol am yr effaith y byddai datblygu'r safle yn Llanbedr yn ei gael ar yr ardal wledig.
Yn 2015 fe wnaeth y diwydiant awyrofod a Llywodraeth Cymru osod targed i gynhyrchu 5% o sector ofod y DU erbyn 2030 - sydd gwerth £2bn y flwyddyn.
Mae'r diwydiant wedi gweld hwb yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chynnydd 34% yn nifer y cwmnïau o'r sector sydd wedi'u lleoli yma.
Mae 47 o gwmnïau awyrofod yn gweithio yng Nghymru bellach, gan gyflogi 517 o bobl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018