Annog plant bregus 5-11 oed i gael brechlyn Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd y gogledd yn annog plant 5-11 oed sy'n fregus i gael brechlyn Covid-19.
Ers rhai wythnosau, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn cynnig y brechlyn i'r gr诺p hwn.
Daw hyn wrth i'r Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI) ddweud y dylai plant ifanc sydd mewn gr诺p "risg", neu'n rhannu cartref gyda rhywun bregus, gael eu brechu.
Ond, yn 么l un ganolfan yn y gogledd, mae angen i fwy o blant yn y categori hwnnw ddod i gael eu brechu.
Yn 么l Dirprwy Reolwr Nyrsio Canolfan Frechu Llandudno, Nia Williams, mae nifer y plant sydd wedi dod i gael eu brechlyn wedi bod yn "araf".
Ond dywedodd ei fod yn "benderfyniad mawr i rieni ddod 芒'u plentyn" ac mae'n annog teuluoedd i ddod i drafod.
"Mae'n cymryd amser i wneud penderfyniad da, y penderfyniad cywir i'ch plentyn," eglurodd.
"Dwi'n credu gyda beth sy'n mynd ymlaen yn y cyfryngau hefyd, efallai eu bod nhw'n oedi neu'n dal i feddwl amdano.
"Ein gweledigaeth ni yw y dylai plant gael eu brechu. Dewch 芒 nhw i lawr, trafodwch unrhyw achosion, 'da ni'n hapus i helpu a thrafod unrhyw benderfyniad 'da chi eisiau ei gymryd gyda'ch plentyn."
Mae Elizabeth o Ddwygyfylchi, Sir Conwy, yn byw gyda chlefyd diabetes. Roedd hi'n un o'r tri o blant a aeth i ganolfan frechu yn Llandudno ddydd Sul.
Mae hi'n dweud y dylai plant eraill fynd i gael eu brechlyn.
"Wnaeth o ddim brifo... roeddech chi jyst yn gallu teimlo ei fod o yna," meddai.
"Dwi'n falch am hynny, oherwydd llawer o'r amser 'da chi'n cael brechlyn pan 'da chi'n mynd i'r ysbyty ac mae'n pigo gymaint."
Ychwanegodd Elizabeth y byddai cael y brechlyn yn golygu y bydd hi'n gallu ymweld 芒'i thaid a nain yng Nghanada'r haf hwn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021