Boris Johnson: Y llew yn ei gaets
- Cyhoeddwyd
Un o bleserau'r Nadolig a Chalan yw ail-ddarganfod llyfrau a ffilmiau y mae dyn wedi hanner eu hanghofio.
Y dydd o'r blaen bues yn ail-wylio ffilm o'r 1960au sydd 芒 rhywbeth i ddweud efallai am wleidyddiaeth ein cyfnod ni.
"The Lion in Winter" oedd y ffilm ac mae'n nodedig yn hanes y sinema Gymreig am berfformiad pwysig cyntaf Anthony Hopkins ar y sgrin fawr. Peter O'Toole, g诺r Si芒n Phillips ar y pryd, sydd 芒'r brif ran yn chwarae'r brenin Harri II yn ei ddyddiau olaf.
Neges y ffilm yw bod pob arweinydd yn feidrol ac yn hwyr neu'n hwyrach does fawr ddim y gall hyd yn oed y brenin mwyaf pwerus a galluog ei wneud i rwystro grym rhag llithro o'i ddwylo.
Unwaith mae swyddogion y llys yn sylweddoli bod y cloc yn tician does dim modd troi'r dwylo yn 么l.
Nawr mae cymharu Boris Johnson 芒 Harri II yn ychydig o strets efallai. Wedi'r cyfan, profodd Harri ddegawdau o lwyddiant a goruchafiaeth tra bod Johnson ond wedi cipio'r goron chwinciad yn 么l.
Eto i gyd, mae hwn yn ddyn wnaeth adeiladu llywodraeth lle'r oedd pob dim yn troi o gwmpas fe'i hun a dyrchafiad yn digwydd ar sail teyrngarwch yn hytrach na thalent neu allu. Nid fi yw'r cyntaf i synhwyro mai llys Canoloesol sydd gan Boris Johnson yn hytrach na chabinet yn yr ystyr fodern.
A dyma ni felly, y llew yn ei gaets a'i fwng wedi ei dorri.
Mae'n ymddangos bod y meinciau cefn yn troi arno a'r arolygon barn yn anffafriol a dweud y lleiaf.
Dim ond dwy flynedd sy' 'na ers i Boris Johnson sgubo trwy ogledd Lloegr a gogledd ddwyrain Cymru i sicrhau mwyafrif teilwng iawn yn Nh欧'r Cyffredin. A nawr dyma fe, yn edrych yn debycach bob dydd i John Major neu Theresa May yn eu dyddiau olaf.
Mae'n anodd gweld sut y gall Johnson gael ei hun allan o'r twll mae fe ynddo. Go brin y byddai ymddiheuriad yn ddigon erbyn hyn.
Fel Harri'r II, gyda'r llys i gyd yn gwylio'r cloc, mae'n anodd osgoi'r casgliad bod y diwedd ar ddod.
Tic Toc.