91热爆

Sut mae bod yn greadigol yn helpu gyda iechyd meddwl?

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio Gorwelion ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ers 2014 mae Gorwelion wedi bod yn rhoi cyfleoedd arbennig i artistiaid o Gymru, fel recordio sesiynau yn y stiwdio 'pop-up' hon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyffrous - dyna un gair gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio y s卯n gerddoriaeth yng Nghymru. Mae'r artistiaid yr un mor niferus ac amrywiol 芒'r cynnyrch sy'n cael ei ryddhau'n wythnosol. Mae mwy a mwy o artistiaid yn torri cwys eu hunain ac yn mynd ag enw 芒 thalent Cymru ymhell tu hwnt iddi.

Felly pa well amser i eistedd i lawr gyda rhai ohonynt a thrafod rhai materion sydd o bwys iddynt?

Mewn prosiect ar y cyd 芒 Gorwelion mae Cymru Fyw wedi sgwrsio gyda rhai o artistiaid cyfoes y s卯n gerddoriaeth yng Nghymru i drafod rhai o'r pynciau sy'n bwysig i'w hunaniaeth nhw a'u proses greadigol.

Bydd cyfres o fideos sy'n edrych ar bynciau fel yr iaith Gymraeg, bod yn fenyw yn y diwydiant, cynrychiolaeth LHDT+, hygyrchedd ac iechyd meddwl yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.

Mae gan Gorwelion berthynas gref gyda llawer o artistiaid o Gymru gan fod y cynllun yn cefnogi artistiaid drwy y Gronfa Lansio - cynllun ariannol i helpu gyda datblygu'r bandiau a'r cerddorion.

Disgrifiad,

Rhai o artistiaid mwyaf diddorol Cymru yn siarad am eu pethynas 芒 iechyd meddwl

Perspectif newydd

Bethan Elfyn sydd wrth lyw cynllun Gorwelion, ac am y prosiect hwn fe ddywedodd: "Mae'r pynciau llosg yma a 'chydig o'r pryder sy'n wynebu artistiaid yn bwysig i'w drafod - beth yw pwysigrwydd yr iaith, diffyg cyfleoedd i ferched, sut i uniaethu ag eraill mewn byd digidol, beth yw effaith y pandemig ar iechyd meddwl y genhedlaeth.

"Megis dechrau yw'r ymrafael hwn 芒'r pynciau ond mae hi wedi bod yn bwysig gwrando, a dechrau gweld perspectif newydd trwy lygaid rhai o artistiaid Cymru."

Iechyd meddwl

Ar ddechrau blwyddyn newydd fel hon, bydd sawl person yn gwneud addunedau yngl欧n a sut i fod yn iachach, yn fwy heini a mwy cynhyrchiol - tri pheth sy'n cael dylanwad enfawr ar iechyd meddwl unigolyn. Dyna pam mai iechyd meddwl yw testun fideo cyntaf y gyfres.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Katie Hall, gyda'i band CHROMA. Roedd CHROMA yn un o artistiaid Gorwelion yn 2018

Yn siarad yn onest ac agored am eu profiadau nhw am sut mae cerddoriaeth a'r broses greadigol yn eu helpu nhw drwy'r heriau mae Cat Morris (Kathod), Katie Hall (CHROMA), Dead Method, a Greta Isaac.

Dywedodd Katie Hall o'r band CHROMA: "Os bysen i ddim efo cerddoriaeth, neu ganu neu'r stwff arall fi'n 'neud i kind of teimlo'n dda, sai'n meddwl bysen i yma. Geniuinely sai'n meddwl bysen i yma."

Ffynhonnell y llun, Karina Barberis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhyddhaodd Greta Isaac ei EP 'Pessimist' yn 2021

Roedd y cerddor Greta Isaac yn dweud bod cael ysgrifennu am bethau anodd yn helpu iddi edrych ar bethau'n fwy gwrthrychol: "Mae gweld [iechyd meddwl] trwy lens eitha' creadigol yn eitha' therapeutic i fi dw i'n meddwl. Fi'n meddwl bod gallu gwneud hwnna - trio versions gwahanol o fy hun ymlaen a chwarae dress-up trwy g芒n - yn therapeutic achos ti'n cael subjective view o bwy wyt ti. Mae hwnna wedi bod yn really helpful i fi."

Ffynhonnell y llun, Seanen Middleton Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Dead Method yn un o'r artistiaid a dderbyniodd nawdd gan y Gronfa Lawnsio yn 2020

I Dead Method, perfformiwr o Gaerdydd, gallu rhoi pethau lawr ar bapur a chreu rhywbeth y mae modd ei rannu ag eraill yw ei "creative outlet".

Deuoliaeth y cyfryngau cymdeithasol

Yn aml iawn, mae perfformwyr yn dibynnu llawer ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu eu gwaith, yn enwedig ar ddechrau eu gyrfa. Ond mae'r cyfrwng yn gallu bod yn niweidiol iawn i iechyd meddwl unigolion.

Ond mae Cat Morris o'r gr诺p creadigol Kathod yn credu bod gan y platfformau hynny eu rhinweddau: "Yn eironig, dwi'n teimlo bod pobl wedi dechrau siarad mwy am iechyd meddwl achos y rhwydweithiau cymdeithasol. Dwi'n dweud eironig achos mae hwnna'n broblem enfawr i iechyd meddwl pobl ond mae fe'n agor lan y drws i bobl eraill allu dweud be' ydy eu gwir nhw."

Ac wrth i bobl ddechrau siarad a bod yn agored am eu teimladau a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu, dywedodd Greta: "Beth sy'n bwysig pan 'dach chi'n siarad am rhywbeth sydd mor delicate 芒 iechyd meddwl yw eich bod chi'n teimlo'n saff a bod cymuned cryf yna i edrych ar 么l chi pan mae pethau'n mynd yn rhy anodd."

Os ydych chi'n cael eich effeithio gan broblemau iechyd meddwl mae rhestr o bobl y gallech chi siarad 芒 nhw ar gael yma.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig