Omicron: Pryderon newydd i ofalwyr a theuluoedd

Ffynhonnell y llun, SPL

  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd Arbennig 91热爆 Radio Cymru

Wrth i amrywiolyn Omicron gydio yng Nghymru dywed Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury, fod "pawb yn y sector gofal yn poeni ac yn nerfus iawn".

"Ry'n ni wedi gweld be' sy wedi digwydd wrth i'r feirws redeg drwy gartrefi gofal ac ma'r sefyllfa yn gallu bod yn ofnadwy - felly mae pobl yn poeni," meddai

Mae'r rhai sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd hefyd yn bryderus wrth iddynt orfod wynebu heriau newydd yn ystod y pandemig.

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth, mab Gwynfor Owen o Benrhyndeudraeth, yn cael gofal mewn cartref yn Abertawe

Mae Gareth, mab Gwynfor Owen o Benrhyndeudraeth, yn byw 芒 chyflwr Asperger ac mewn cartref gofal yn Abertawe. Yn 么l Gwynfor mae trefnu i ymweld ag e wedi bod yn her ac mae'n ofni bod mwy o heriau i ddod.

"Yr her fwya' yw gallu gweld fy mab ac mae'r feirws wedi newid fy mywyd personol i.

"Fe fyddwn i'n arfer mynd lawr gyda ngwaith fel cyfieithydd i'r ardal lle mae fy mab yn Abertawe yn wythnosol bron ond rwy' nawr yn g'neud llawer o ngwaith ar zoom.

"Rwy' felly yn gneud siwrne arbennig yr holl ffordd i weld fy mab yn hytrach na galw heibio. Mae hyn yn newid mawr.

"Ma' gennym gysylltiad agos iawn ar y ff么n ond mae'n llawer anoddach heb weld rhywun wyneb yn wyneb. Mae o i weld reit hapus ar y cysylltiad ar hyn o bryd."

'Staff wedi blino'

Mae cael y cydbwysedd iawn rhwng sicrhau cysylltiad teuluoedd 芒'u hanwyliaid a diogelu pawb rhag Covid yn un o'r heriau mawr i staff yn y sector yn 么l Mary Wimbury.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae angen meddwl am gymaint o bethau bellach mewn cartref gofal,' medd Mary Wimbury

"Mae'n haelodau ni o dan lot o bwysau achos mae pobl eisiau ymweld 芒'u teuluoedd ac mae pobl sy yn byw mewn cartrefi gofal eisiau gweld eu teuluoedd ond ni jyst yn poeni am y variant newydd Omicron.

"Cyn y pandemig roedd ymwelwyr yn cael dod pryd bynnag ro'n nhw eisiau. Ond nawr ry'n ni'n gorfod meddwl am bethau fel cael prawf, neu gwisgo PPE a meddwl drwy'r amser am les pobl fregus sy yn byw mewn cartrefi gofal.

"Mae flow before you go yn bwysig mewn cartref gofal gyda pobl fregus achos mae mwy o risg iddyn nhw oherwydd y feirws. Mae gofynion pob cartref yn wahanol.

"Mae pawb sy yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol wedi blino a bod yn onest. Mae 'di bod yn flwyddyn a hanner ofnadwy."

Mae angen gofal mawr ar Gareth - mae ganddo anghenion dwys yn 么l ei dad.

"Mae Gareth yn byw gyda chyflwr Asperger - mae ganddo ei gymeriad unigryw ei hun. Mae ganddo ddealltwriaeth dda o'r rhan fwya' o bethau ond mae ganddo anghenion dwys sy' angen gofal 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae'n bwysig ei fod o mewn lle i gael y gofal gorau."

Ychwanegodd Gwynfor Owen ei fod e'n credu y bydd e'n wynebu y daith hir o Benrhyndeudraeth i lawr i Dre-g诺yr am beth amser eto.

"Mae y siwrne i Abertawe yn bell ond rwy' 'di hen arfer mynd i fyny ac i lawr yr A470! Mae Abertawe yn nes na Chaergrawnt lle ma' Gareth 'di bod yn flaenorol - roedd honna yn saith awr o siwrne!"