Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Ni all Llywodraeth Cymru ariannu cynllun ffyrlo newydd'
Does gan Lywodraeth Cymru mo'r arian na'r system i dalu cyflogau gweithwyr sy'n cael eu heffeithio gan y rheolau Covid newydd, yn 么l y Gweinidog Economi, Vaughan Gething.
Bydd clybiau nos yn cau yng Nghymru o 27 Rhagfyr ymlaen a bydd angen cadw pellter cymdeithasol mewn siopau ac yn y gwaith mewn ymateb i ledaeniad yr amrywiolyn Omicron.
Dywedodd Mr Gething bod 拢60m wedi ei neilltuo i helpu busnesau ond ni fydd yna gynllun ffyrlo ar batrwm y cynllun y sefydlodd Llywodraeth y DU y llynedd.
Nos Sul, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod wedi dyblu faint o arian ychwanegol sydd ar gael i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon - o 拢430m i 拢860m - i "fynd i'r afael 芒 Covid".
Bydd 拢270m bellach ar gael i Lywodraeth Cymru, meddai'r Trysorlys.
Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio y gallai Cymru weld "tswnami o achosion" yn yr wythnosau nesaf.
'Heb yr un mynediad at wybodaeth a data'
"Does dim mynediad gyda ni i'r arian a fyddai'n angenrheidiol i gyflwyno cynllun fel y cynllun ffyrlo ar draws Cymru," dywedodd Mr Gething yn gynharach ddydd Sul, mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement.
"Byddai'n cymryd llawer iawn yn fwy o arian i wneud hynny a phopeth arall ry'n ni'n amau y bydd yn rhaid i ni ei wneud.
"O ran yr hyn roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu ei wneud... sef un o'u cyfraniadau mwyaf positif o ran rheoli'r pandemig gyda'r cynllun ffyrlo, gan warchod swyddi a busnesau - does gyda ni mo'r yn mynediad 芒 nhw i'r wybodaeth a'r data.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, bod gan Lywodraeth Cymru 拢650m mewn arian wrth gefn y gellid ei ddefnyddio i roi cefnogaeth.
Ychwanegodd petae wedi bod yn benderfyniad ar draws y DU i gau lleoliadau, fe fyddai'n cefnogi galw ar y Trysorlys am gefnogaeth ariannol.
"Os yw Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar ei phen ei hun... mae angen iddi ddefnyddio ei harian wrth gefn ei hun," dywedodd.
Sgyrsiau anodd gyda staff
Mae Samantha Dabb, rheolwr bar a chanolfan gerddoriaeth Le Public Space yng Nghasnewydd yn dweud na fyddai'n bosib parhau i dalu staff heb gefnogaeth os oes rhaid aros ar gau.
"Mae'n wirioneddol anodd i siarad gyda fy staff rhan amser a dweud 'Sa i'n gwybod os fyddwch chi mewn gwaith ar 么l Nadolig'.
"Yn amlwg, fe wnawn ein gorau i dalu gymaint ag y gallwn ni i chi, ond heb ffyrlo gall hynny ond para ychydig wythnosau cyn i ni ddiflannu beth bynnag."
Yn 么l pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, Sara Jones, mae'r rheolau pellter cymdeithasol newydd yn cael eu cyflwyno "ar adeg gwaethaf posib y flwyddyn".
Dylid defnyddio cyfran o'r 拢60m y mae Llywodraeth Cymru wedi ei neilltuo, meddai, i ddigolledu busnesau.
Dywedodd bod cyfnod y Nadolig "yn gwbl hanfodol i fanwerthwyr", gan fod 20% o'u holl werthiannau am flwyddyn yn digwydd bryd hynny.