'Ofni colli cartref yn sgil cyfyngiadau ar gampfeydd'
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion campfeydd yn pryderu y gallai cyfyngiadau Covid newydd eu taro mor galed fel y gallen nhw golli eu cartrefi.
Dywedodd un y byddai hi eisoes yn ddigartref os na fyddai wedi dychwelyd i weithio yn llawn amser fel ffisiotherapydd ysbyty.
Dywedodd un arall y gallai golli popeth y flwyddyn nesaf os na fyddai pethau yn gwella.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd hyd at 拢60m ar gael i helpu busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.
Fe ddaeth cyhoeddiad ddydd Iau y bydd rhaid i gampfeydd ailgyflwyno rheolau pellter cymdeithasol a system unffordd o Ragfyr 27.
Mae'n rhan o fesurau sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru i atal "storm Omicron".
'Mater o amser'
Yn 么l perchennog Energie Fitness yng Nghaerdydd, James Kempton, mae'n "fater o amser" cyn y bydd mewn trafferthion ariannol.
"Mae gen i tan fis Mawrth nesaf cyn i mi redeg allan o arian," meddai'r g诺r 39 oed.
"Mae'n si诺r y byddai'n ddigartref ac mewn dyledion enfawr i Fanc Lloyds a Hitachi Capital."
Fe wnaeth Jin Bowring ddychwelyd i weithio yn llawn amser fel ffisiotherapydd ysbyty i gadw dau ben llinyn ynghyd.
Roedd hi'n gweithio fel ffisiotherapydd a chynnal dosbarthiadau nos yn y gampfa mai'n ei redeg ym Mhenarth gyda'i g诺r Matthew.
"Mae'n le bach, felly dim ond rhyw hanner dwsin allai gael yma wrth gadw at bellter cymdeithasol," meddai.
"Er i mi wneud dosbarthiadau ar-lein roedd yn hunllef. Dydi busnesau bach ddim am oroesi."
'Hynod ffodus'
Yn draddodiadol, mae mis Ionawr yn gyfnod llewyrchus i fusnesau o'r fath wrth i bobl wneud addewidion blwyddyn newydd neu geisio colli pwysau yn dilyn gloddesta'r 诺yl.
Ac mae'r cwsmeriaid yma yn bwysig i fusnesau llai oroesi.
"Petai dyma fy mhrif waith, fyddwn i'n methu dygymod ac yn methu talu biliau," eglurodd Ms Bowring.
"Fe fyddwn i'n ddigartref oni bai i mi allu dychwelyd i'm gwaith, dwi'n hynod ffodus."
Dywedodd perchennog busnes Hydrofitness Ladies Gym, yn Y Barri, Anna Prince, ei bod yn dygymod yn ariannol "o fis i fis".
"Dwi ond yn gobeithio na fydd y llywodraeth yn ein cau ni eto," meddai.
"Heb gymorth ariannol, fyddwn ni ddim yn gallu ailagor."
Arian i helpu
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i helpu atal lledaeniaid Covid.
"Fe fydd hyd at 拢60m o arian ar gael i fusnesau sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau newydd," meddai llefarydd.
"Rydym yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i weld sut mae modd rhoi'r gefnogaeth mwyaf effeithiol a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach mor fuan 芒 phosib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021