Bwrdd iechyd yn 'arloesi' ar ddiagnosis canser y prostad
- Cyhoeddwyd
Gallai'r risg o gam-ddiagnosis canser leihau'n sylweddol diolch i raglen gyfrifiadurol newydd sy'n cael ei defnyddio gan fwrdd iechyd gogledd Cymru.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r cyntaf yn y DU i greu rôl glinigol Patholegydd Deallusrwydd Artiffisial er mwyn profi dynion ar gyfer canser y prostad.
Mae'r rhaglen gyfrifiadurol yn defnyddio algorithmau i adnabod canser, ac o 105 o gleifion sydd eisoes wedi eu profi, cafodd pob un ddiagnosis cywir.
Dywedodd y patholegydd ymgynghorol, Dr Muhammad Aslam wrth 91Èȱ¬ Cymru fod y datblygiad yn un "cyffrous".
Mae techneg debyg wrthi'n cael ei ddatblygu i roi diagnosis o ganser y fron, meddai.
'Ni yw'r arloeswyr'
Mae Dr Aslam yn defnyddio ap o'r enw Galen - sydd wedi'i ddatblygu gan gwmni Ibex - er mwyn gwirio sleidiau o brofion biopsi yn ddigidol.
Dywedodd fod y broses o wirio sleidiau biopsïau fel arfer yn cymryd tuag awr, ond gyda'r rhaglen newydd mae'n gallu gweld a mesur canser "mewn ychydig funudau".
"Gyda'r system hon, mae gennym ni fodd o wirio ddwywaith felly mae'n llawer gwell ar gyfer ein cleifion," meddai.
Ychwanegodd: "Ni yw'r tîm cyntaf a'r bwrdd iechyd cyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg hon ar gyfer diagnosis clinigol yn y DU. Ni yw'r arloeswyr."
Gyda rhaglen Galen yn gallu cwtogi ar yr amser mae'n ei gymryd i ddadansoddi profion biopsi, dywedodd Dr Aslam mai'r fantais fwyaf yw'r cywirdeb.
Mae canserau'n gallu bod yn fach ac yn anodd eu hadnabod.
Gall profion biopsi prostad fod yn hynod o boenus hefyd, yn ôl Dr Aslam, ac mae diagnosis cywir yn lleihau'r risg o orfod cael ail brawf.
Mae'r dechnoleg wedi cael ei groesawu gan Alwyn ap Huw, 62 o ardal Glan Conwy, a gafodd ddiagnosis o ganser y prostad yn 2018.
Dywedodd: "Mae'r weithred biopsi yn hynod o boenus - y peth mwyaf poenus i mi brofi erioed.
"Oherwydd ei fod yn broses mor boenus, mae'n rhaid bod unrhyw beth sy'n lleihau'r angen ar gyfer prawf arall yn beth da.
"Byddwn i'n meddwl y gallai wella bywydau cymaint o ddynion.
"Mae canser y prostad yn un o'r canserau hynny sy'n gallu bod yn gymharol hawdd ei drin, os yw'n cael ei ddal yn gynnar.
"Yr hiraf mae'n cael ei adael, y mwyaf tebygol yw o'ch lladd. Byddwn i'n croesawu unrhyw beth sy'n cyflymu diagnosis."
Sut mae'n gweithio?
Mae sleidiau gan sawl claf yn gallu cael eu darllen o fewn munudau gyda'r rhaglen.
Yna, mae'r ap yn graddio'r samplau gan ddefnyddio system goleuadau traffig, sy'n medru rhybuddio meddygon o'r achosion mwyaf argyfyngus.
Mae'r system hefyd yn dangos pa mor ddifrifol yw'r tiwmor ac os yw'n debygol o waethygu.
Wrth ofyn i Dr Aslam os allai'r system gael gwared ar gam-ddiagnosis o ganser y prostad yn llwyr, atebodd: "Dwi'n eithaf siŵr, yn sylweddol… trwy gyflwyno'r dechnoleg hon ry'n ni'n edrych ar ostyngiad mawr yn y risg… hyd yma dydyn ni ddim wedi adnabod un achos sydd wedi cael cam-ddiagnosis."
Mae dros 2,500 o bobl yn cael diagnosis o ganser y prostad bob blwyddyn yng Nghymru, a thua 600 o farwolaethau o'i herwydd.
Gobaith Dr Aslam yw y bydd y rhaglen hon yn cael ei defnyddio ar draws y wlad.
Dywedodd fod diagnosis sydyn a chywir yn galluogi cleifion i gael y driniaeth gywir, allai rhoi gwell siawns o adferiad.
'Ein prosiect nesaf yw'r fron'
Mae treialon cyfyngedig o raglen Galen yn cael eu cyflwyno mewn rhai byrddau iechyd yn Lloegr ond dywedodd Dr Aslam nad oedd cyllid gan Lywodraeth y DU ar gael yng Nghymru.
Ond llwyddodd i fynd at Fenter Ymchwil Busnesau Bach Llywodraeth Cymru i gael cyllid.
Mae Dr Aslam hefyd yn parhau i roi adborth i'r datblygwyr fel y gall yr ap barhau i "ddysgu".
Dywedodd mai'r cam nesaf yw gweld os all yr algorithmau adnabod achosion o ganser y fron.
"Y pwynt cychwyn oedd y prostad - a dwi'n meddwl bod gennym ni brawf cysyniad bellach - mae'n gweithio'n dda. Nawr, ein prosiect nesaf yw'r fron."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019