Camau pellach i'w hystyried yn sgil amrywiolyn Omicron
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried dros y dyddiau nesaf a oes angen cymryd camau pellach, fel cau ysgolion yn gynnar, yn sgil datblygiad amrywiolyn diweddaraf Covid-19, medd Gweinidog Iechyd Cymru.
Mae ond yn "fater o amser" cyn y daw achosion amrywiolyn Omicron i'r fei yng Nghymru ac "mae'n bosibl bod rhai yma eisoes", yn 么l Eluned Morgan.
Erbyn bore Llun, roedd naw achos o'r amrywiolyn newydd, sydd 芒'r potensial i fod yr un mwyaf heintus hyd yn hyn, wedi eu cadarnhau yn y DU - chwech yn Yr Alban a thri yn Lloegr.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd gwisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr yn cael eu hailgyflwyno o ddydd Mawrth - rheolau sydd wedi parhau mewn grym yng Nghymru.
Mewn llythyr at brif weinidog y DU, mae arweinwyr Cymru a'r Alban wedi galw am gyfarfod brys o'r pwyllgor argyfyngau Cobra, ac am orfodi teithwyr i hunan-ynysu am wyth diwrnod ar 么l cyrraedd y DU.
'Defnyddio amser i baratoi'
"Does 'na ddim cadarnhad fod 'na unrhyw achosion yng Nghymru eto ond y'n ni yn disgwyl y fydd y sefyllfa hynny yn newid yn ystod yr wythnosa' nesa'," dywedodd Ms Morgan ar raglen Dros Frecwast fore Llun.
"Mae'n rhaid defnyddio'r amser yma nawr i baratoi ar gyfer amrywiolyn sy' falle hyd yn oed tyn fwy heintus na [amrywiolyn] Delta."
Dywedodd bod yna lawer i'w ddysgu am yr amrywiolyn Omicron a bod Llywodraeth Cymru'n ymdrechu dros y penwythnos i sicrhau "bod popeth mewn lle" gan bod y datblygiad "yn un sydd yn poeni ni".
Gofynnwyd wrth y Gweinidog Iechyd a yw'r cyfyngiadau presennol yng Nghymru yn ddigon llym yn wyneb datblygiad amrywiolyn newydd sy'n destun pryder.
Atebodd: "Mi fyddwn ni yn parhau i drafod hynny dros y diwrnode' nesa' ac wrth gwrs mi fyddwn ni'n rhoi mesure' mewn lle os oes angen.
"Y ffaith yw dy'n ni ddim yn gw'bod digon am yr amrywiolyn yma eto. Dy'n ni'm yn gw'bod am y difrifoldeb os mae rhywun yn ca'l y feirws newydd yma."
Dywedodd bod angen paratoi a dilyn y dystiolaeth o Dde Affrica - y wlad gyntaf i gofnodi'r amrywiolyn Omicron.
Gofynnwyd wrthi a oes angen ystyried cau ysgolion ychydig yn gynt, yn dilyn cyhuddiadau o weithredu'n rhy hwyr y llynedd pan ddaeth amrywiolyn Delta i'r fei.
Atebodd: "Mae'r rhain yn bethe' mi fyddwn ni yn eu trafod dros y diwrnode' nesa'."
Mae profion PCR unwaith eto yn orfodol i unrhyw un sy'n teithio i'r wlad o dramor, ac fe gafodd rhagor o wledydd eu hychwanegu at restr deithio goch y DU dros y penwythnos.
Mewn llythyr at brif weinidog y DU, mae arweinwyr Cymru a'r Alban, Mark Drakeford a Nicola Sturgeon, yn galw am fynd gam ymhellach a gorfodi teithwyr i hunan-ynysu wrth ddychwelyd o dramor a chymryd ail brawf PCR ar yr wythfed diwrnod.
Dywed y ddau bod yr amrywiolyn newydd "yn fygythiad posib i'r DU" a bod angen i bedair gwlad yr undeb gydweithio'n effeithiol, cymryd "pob cam rhesymol" i reoli pobl sy'n cyrraedd gyda'r haint, a chyfyngu ar ledaeniad y feirws.
Maen nhw hefyd yn galw am gynnal cyfarfod brys o'r pwyllgor argyfyngau Cobra, ac i'r Trysorlys ariannu cynlluniau cefnogi busnes petai angen ailgyflwyno cyfyngiadau mwy caeth.
"Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa unwaith yn rhagor pan fo ymyriadau iechyd cyhoeddus yn cael eu heffeithio'n negyddol gan ddiffyg cefnogaeth ariannol, sydd ar gael yn 么l y galw yn Lloegr," medd Mr Drakeford a Ms Sturgeon.
'Optimistaidd y cawn well Nadolig'
Ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton bod trosglwyddiad yr amrywiolyn newydd o Dde Affrica i Ewrop yn amlygu bod hi'n "fater o brynu amser yn hytrach nag atal y trosglwyddiad yn gyfan gwbl".
Pwysleisiodd mai'r amddiffyniad gorau yw'r brechlyn a'r camau diogelwch fel pellter cymdeithasol.
"Rwyf dal yn optimistaidd y cawn ni well Nadolig na'r llynedd ond mae pethau yn y fantol ar y hyn o bryd.
"Yn gyntaf, mae gyda ni'n amrywiolyn newydd yma, y mae'n rhaid i ni eu deall... Mae'n debyg ei fod yn haws ei drosglwyddo. A yw'n fwy ffyrnig? Dydyn ni jest ddim yn gwybod.
"Hefyd, cyn i ni glywed am yr amrywiolyn yna, roedden ni'n pryderu am yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill Ewrop.
"Mae ton o achosion Delta'n lledu o'r dwyrain i'r gorllewin - dydyn ni ddim yn gwybod... a yw ydyn wedi cael y don Delta waethaf ynteu a yw hynny eto i ddod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021