91Èȱ¬

Y fodrwy briodas yng nghacen gri Cliff Jones

  • Cyhoeddwyd
cliffFfynhonnell y llun, Twitter

Mae cyn-asgellwr Abertawe a Tottenham Hotspur, Cliff Jones, yn cael ei ystyried gan lawer fel un o'r pêl-droedwyr gorau erioed o Gymru. Roedd yn un o sêr tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 ac fe gynrychiolodd ei wlad 59 gwaith rhwng 1954 ac 1969.

Mae'n byw yng ngogledd Llundain ers ei ddyddiau yn chwarae pêl-droed, ond mae'n dal i fwynhau bwyd o'i famwlad.

Ond fe gafodd Cliff sioc enfawr nos Lun wrth ddarganfod modrwy briodas Joyce Medwin yn ei gacen. Mae Joyce yn wraig i Terry Medwin, hen gyfaill i Cliff a chyn-gyd-chwaraewr yn ei ddyddiau ag Abertawe, Tottenham Hotspur a Chymru.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cliff Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cliff Jones

Fe wnaeth Joyce bobi'r cacenni a'u rhoi i Cliff a'i wraig ar brynhawn dydd Sul pan wnaethant gyfarfod i weld gêm Spurs yn erbyn Leeds United.

Rhoddodd Joyce ddwsin o gacenni cri i Cliff, ac yn y cyntaf iddo frathu fe deimlodd darn o fetel caled rhwng ei ddannedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cliff Jones yn chwarae dros Tottenham Hotspur yn erbyn Aresenal - 22 Chwefror, 1958

Roedd Joyce mewn tipyn o banic dros y penwythnos wedi iddi sylwi bod modrwy briodas ei mam, yr oedd hi'n ei wisgo bob dydd, wedi diflannu.

Ond fe drodd y siom yn orfoledd wedi iddi gael galwad ffôn gan Cliff yn dweud ei fod wedi ffeindio'r fodrwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dau alarch yng ngogledd Llundain; Terry Medwin a Cliff Jones yn eu dyddiau yn chwarae dros Tottenham Hotspur

Mae cyfeillgarwch Cliff Jones a Terry Medwin yn dyddio nôl 70 o flynyddoedd, pan oedd y ddau'n chwaraewyr ifanc dros Tref Abertawe (Swansea Town) fel oedd y clwb y dyddiau hynny.

Ymunodd Terry â'r Elyrch yn 1949, gyda Cliff yn arwyddo dros y clwb tair blynedd yn ddiweddarach. Yn 1956 fe aeth Medwin i ogledd Llundain ac arwyddo i Tottenham Hotspur, a dwy flynedd yn ddiweddarach fe ddilynodd Cliff unwaith eto.

Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Cliff Jones dair gôl dros Gymru yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden

Yn ffrindiau oes, mi fydd y cyswllt rhwng y teuluoedd Jones a Medwin yn agos am flynyddoedd, yn enwedig tra'n pobi cacenni cri.

Hefyd o ddiddordeb: