Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer dwy gêm allweddol
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cyhoeddi carfan o 26 o chwaraewr ar gyfer dwy gêm bwysig yn yr ymgyrch i gyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA Merched 2023.
Bydd Cymru yn wynebu Groeg ym Mharc y Scarlets ar nos Wener 26 Tachwedd cyn teithio i Guingamp yn Llydaw i wynebu Ffrainc ar nos Fawrth 30 Tachwedd.
Mae carfan Gemma Grainger yn mynd mewn i'r gemau yn ail yn y grŵp ar ôl tair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal.
Ni fydd Rachel Rowe ar gael oherwydd anaf, ac mae Hannah Cain allan am gyfnod hir ar ôl dioddef o anaf i'w phen-glin wythnos ar ôl iddi hi ennill ei chap gyntaf dros Gymru fis diwethaf.
Mae Maria Francis-Jones yn ôl yn y garfan ar ôl bod yn gapten i'r tîm dan-19 fis diwethaf wrth iddyn nhw gyrraedd Cynghrair A yn rownd ragbrofol pencampwriaeth UEFA EURO Dan-19 Merched 2022.
Bydd Cymru yn chwarae ym Mharc y Scarlets unwaith eto ar ôl curo Kazakhstan 6-0 yna ym mis Medi.
Carfan Cymru yn llawn:
Laura O'SULLIVAN (Caerdydd), Olivia CLARK (Coventry United), Poppy SOPER (Plymouth Argyle), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Reading), Rhiannon ROBERTS (Lerpwl), Esther MORGAN (Tottenham Hotspur), Maria FRANCIS-JONES (Manchester City), Lily WOODHAM (Reading), Morgan ROGERS (Tottenham Hotspur), Sophie INGLE (Chelsea), Anna FILBEY (Charlton Athletic), Angharad JAMES (North Carolina Courage), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Charlie ESTCOURT (Coventry United), Jess FISHLOCK (OL Reign), Carrie JONES (Manchester United), Chloe WILLIAMS (Blackburn Rovers, ar fenthyg o Manchester United), Ffion MORGAN (Bristol City), Megan WYNNE (Charlton Athletic), Natasha HARDING (Reading), Ceri HOLLAND (Lerpwl), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Helen WARD (Watford), Elise HUGHES (Charlton Athletic), Georgia WALTERS (Lerpwl).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021