G锚m ail gyfle i ddigwydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn chwarae eu g锚m ail gyfle ar gyfer Qatar 2022 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn 么l pennaeth Cymdeithas B锚l-Droed Cymru.
Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr y gymdeithas, nad oedd "unrhyw ddyhead o gwbl i fynd i Stadiwm Principality" i'w chwarae.
Fe wnaeth y garfan sicrhau mai g锚m gartref y byddan nhw'n ei chwarae yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle trwy ennill pwynt yn erbyn Gwlad Belg nos Fawrth.
Dywedodd Mr Mooney wrth raglen 91热爆 Politics Wales y byddai'r t卯m "bendant" yn chwarae'r g锚m yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Stadiwm Dinas Caerdydd, sydd yn dal 33,000 o bobl, sydd wedi cael ei ddefnyddio'n bennaf gan Gymru ar gyfer eu gemau gartref ers 2011.
Ond fe wnaethon nhw herio Sbaen mewn g锚m gyfeillgar yn Stadiwm Principality, sydd yn dal 74,500, yn Hydref 2018.
"Rydyn ni'n hapus iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae'n cefnogwyr ni'n hapus iawn yno," dywedodd Mr Mooney.
Ychwanegodd hefyd os fydd Cymru'n cyrraedd rownd derfynol a gemau ail gyfle, a bod honno hefyd yn g锚m gartref, fe fyddai'n cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd yr enwau'n cael eu tynnu o'r het ar gyfer y gemau ail gyfle yr wythnos nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021