91热爆

Rhybudd melyn am law trwm ledled Cymru dros nos

  • Cyhoeddwyd
map o'r rybuddion melynFfynhonnell y llun, y swyddfa dywydd

Bydd ail rybudd am law trwm yn dod i rym ar draws y rhan fwyaf o Gymru dros nos.

Yn 么l y swyddfa dywydd, gall glaw trwm achosi llifogydd a tharfu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai ardaloedd o'r wlad.

Roedd y rhybudd melyn cyntaf wedi bod mewn grym ers 06:00 ddydd Iau. Daeth i ben am 15:00 ddydd Gwener.

Bydd y rhybudd diweddaraf yn dechrau am 21:00 nos Wener ac mae disgwyl iddo barhau tan 09:00 ddydd Sadwrn.

Llifogydd

Mae'r heddlu wedi cau ffordd yn Nefyn ym Mhen Ll欧n wedi i "dywydd difrifol" achosi mwd i lithro ar hyd y l么n.

Anfonwyd timau cyngor allan i ddelio 芒 llifogydd ar draws sir Conwy ddydd Gwener hefyd.

Adroddodd y cyngor bod llifogydd wedi bod yn ardaloedd Conwy, Deganwy, St George, Bae Colwyn Uchaf, Llandudno, Llanrhos, Glan Conwy, Craig y Don, Mochdre a Phenmaenmawr.

Daeth rhai cerbydau i stop ar Ffordd yr Orsaf ac Albert Drive yn Neganwy lle'r oedd draeniau wedi'u blocio.

Pynciau cysylltiedig