'Gall trafodaethau Plaid a Llafur ddim para am byth'
- Cyhoeddwyd
Gall y trafodaethau rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ddim parhau am byth a bydd rhaid dod i gytundeb, medd y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Mae'r ddwy blaid wedi bod yn siarad am gydweithio posib am oddeutu mis ond hyd yma does yna yr un cytundeb.
Dywed arweinydd Llafur Cymru, Mr Drakeford, bod y cloc yn tician tra bod llefarydd ar ran Plaid Cymru yn dweud bod y trafodaethau yn mynd rhagddynt.
"Mae trafodaethau yn mynd yn eu blaen a bydd Plaid Cymru yn ceisio dod i gytundeb ar feysydd o ddiddordeb cyffredin a fydd o fudd i fywydau dyddiol pobl ymhob rhan o Gymru," medd llefarydd.
Mae llywodraeth Lafur Cymru heb fwyafrif yn y Senedd ac angen cymorth o leiaf un AS o'r gwrthbleidiau er mwyn rhoi s锚l bendith i ddeddfau a chyllidebau.
Mewn cyfweliad gyda 91热爆 Cymru dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n cytuno bod rhaid i'r trafodaethau ddod i ben.
"Mae llawer o drafod wedi bod yr wythnos hon sy'n cynnwys aelodau o fy nghabinet ac aelodau o gr诺p Plaid Cymru yma.
"Mae yna rai pethau o hyd sydd angen eu datrys ond all y trafodaethau ddim para am byth."
Dyw'r ddwy ochr ddim yn trafod clymbleidio a does dim disgwyl i Plaid Cymru gael lle yn y llywodraeth.
Ond maen nhw wedi bod yn edrych ar ba bolis茂au y mae modd cydweithio arnynt.
'Gweithredu ers lles pobl Cymru'
Cyn i Mr Drakeford wneud ei sylwadau doedd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ddim am wneud sylw ar y mater.
Ond mae e wedi gwadu bod Plaid yn ildio ei hawl fel yr wrthblaid.
"Dyw e ddim yn fater o helpu'r llywodraeth ond yn fater o helpu pobl Cymru," meddai.
"A dyna'r prawf, os mynnwch chi, a yw cytundeb yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl Cymru.
"Dyna pam ry'n ni yma. Dyna pam bod y Senedd yn bodoli - er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl."
Un o'r pethau y gall y ddwy blaid ddod i gytundeb arnynt yw diwygio cyfansoddiadol - mae arweinyddion y ddwy blaid yn credu y dylai'r sefydliad fod yn fwy.
Gan siarad wedi agoriad swyddogol y chweched Senedd gan y Frenhines, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio y bydd mwy na 60 Aelod o'r Senedd yn bresennol yn yr agoriad swyddogol nesaf a fydd yn digwydd wedi etholiadau 2026.
"Mae'n amlwg i mi nad oes gan y Senedd ar hyn o bryd y capasiti i gyflawni'r hyn sy'n ddisgwyliedig," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021