'Dim hawl' gan brotestwyr gwrth-frechu i godi ofn
- Cyhoeddwyd
Dyw hi "ddim yn dderbyniol" i brotestwyr gwrth-frechu godi ofn ar bobl tu allan i ganolfannau brechu, meddai'r Prif Weinidog.
Daw sylwadau Mark Drakeford wedi i fam a merch 15 oed ddweud eu bod wedi cael eu hamgylchynu gan brotestwyr ym Mae Caerdydd.
Roedd Grace Baker-Earle, wnaeth ddatblygu Myalgic Encephalopathy (ME) ar 么l cael Covid y llynedd ac felly'n defnyddio cadair olwyn, wedi mynd am ei brechiad cyntaf ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi mynychu'r brotest a'u bod wedi arestio un dyn.
Cafodd y dyn 61 oed o Gasnewydd ei arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud 芒 hiliaeth, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechn茂aeth.
Dywedodd Mr Drakeford ar raglen Sunday Supplement 91热爆 Radio Wales: "Mae hawl gan bobl i brotestio - mae hawl i roi eich barn.
"Ond does dim hawl ganddyn nhw i'w wneud mewn ffordd sy'n codi ofn ar eraill.
"Mae'n ffordd o aflonyddu - nid dyna beth mae'r person sy'n protestio yn ei feddwl, ond mae'n cael yr effaith hynny ar yr unigolyn.
"Yn amlwg yn yr achos yma roedden nhw wedi codi ofn ar y fenyw ifanc."
Ychwanegodd y Prif Weinidog fod yn rhaid i'r heddlu "fod yn barod i weithredu" mewn digwyddiadau o'r fath.
"Maen nhw'n gywir i ddweud fod gan bobl yr hawl i brotestio ac yn y blaen, ond mae angen iddyn nhw feddwl yn nhermau'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar unigolyn, yn yr achos yma, gafodd ei hamgylchynu gan gr诺p o bobl," meddai.
Dywedodd mam Grace, Angela fod y profiad yn "ofnadwy", wedi i'r protestwyr ei chyhuddo o ddefnyddio ei merch fel "lab rat".
Yn 么l Angela, o ardal Y Bont-faen ym Mro Morgannwg, fe wnaeth criw o tua 15 o brotestwyr amgylchynu ei char a bu'n rhaid iddi ddweud wrth un am "gamu 'n么l".
Mae rhiant arall, Melissa Ringham wedi galw am fwy o ddiogelwch i bobl sy'n mynychu canolfannau brechu wedi iddi hi a'i merch 15 oed gael eu targedu gan brotestwyr yn y Bae ddydd Sadwrn.
Dywedodd fod un o'r protestwyr wedi eu dilyn i'r drws a gweiddi arnynt.
"Doeddwn i ddim yn teimlo'n ddiogel yn cerdded mewn yno," meddai.
"Wrth i ni gerdded allan roedd un fenyw yn gweiddi arna i 'Rhag eich cywilydd - dy'ch chi'n lladd eich merch'."
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n gyfrifol am y ganolfan frechu, wedi cael cais am sylw.
Mae plant rhwng 12 a 15 oed yng Nghymru wedi bod yn cael cynnig brechlyn Covid ers 4 Hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2021