91Èȱ¬

Ciwiau hir am betrol er bod 'argaeledd da' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Llanishen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ciwiau hir i'w gweld yn Llanisien yng Nghaerdydd fore Gwener

Does dim prinder petrol yng Nghymru, serch problemau mewn mannau eraill yn y DU, yn ôl dwy archfarchnad.

Mae rhai gorsafoedd petrol wedi gweld ciwiau hir yn dilyn problemau wrth gludo'r tanwydd o gwmpas y DU.

Mae rhai safleoedd BP a Tesco Alliance wedi eu gorfodi i gau dros y dyddiau diwethaf.

Ond yn ôl Asda a Tesco, dyw'r problemau ddim yn effeithio ar orsafoedd yng Nghymru.

Dywedodd Asda bod pob un o'i orsafoedd yn y wlad dal ar agor ac yn ôl Tesco mae "argaeledd da" o betrol yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr orsaf yma yn Nolgellau yn brysur

Disgrifiad o’r llun,

Ac roedd rhaid i fodurwyr giwio yn Ninbych hefyd

Mae rhai wedi beirniadu gyrwyr am brynu mewn panig yn dilyn yr adroddiadau o brinder mewn rhai mannau yn y DU.

Dywedodd Steve Coombe o'r Petrol Retailers Association y gallai pobl yn brysio i'r gorsafoedd petrol greu prinder gwirioneddol.

"Mae'n rhaid i bawb bwyllo, mae 'na ddigonedd o stoc," meddai.

"Mae'r tanwydd yn cael ei ail-lenwi yn y safleoedd sydd wedi gweld problemau."

Dywedodd Sion Jones o orsaf Valley Services yn Llandysul y byddai'n rhaid ystyried cyfyngu gwerthiant tanwydd os yw'r un nifer o gwsmeriaid yn parhau.

"Mae hi wedi bod fel ffair drwy'r bore. Mae sêls bore 'ma wedi dwblu ar gyfer dydd Gwener fel rheol.

"Mae heddi wedi mynd yn sgrech. Y wasg sydd wedi creu hyn. Mae prinder drivers wedi bod ers tri neu bedwar mis.

"Os eiff pethe 'mlaen bydd rhaid torri 'nôl ar faint mae pobl yn medru cael yn ystod y dydd."

Mae'r problemau gyda chyflenwadau petrol yn gysylltiedig â phrinder gyrwyr lori, gyda'r DU yn brin o tua 100,000 o yrwyr yn ôl rhai amcanion.

Mae'r diffyg gyrwyr wedi'i waethygu gan effeithiau'r pandemig a Brexit.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan Sion

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan Sion

Pynciau cysylltiedig