91热爆

Cerbydau arfog: Asesu cannoedd o filwyr am golli clyw

  • Cyhoeddwyd
Ajax Armoured VehicleFfynhonnell y llun, Y Goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nod y cerbydau Ajax yw darparu "cerbydau ymosod cwbl fodern i'r fyddin"

Mae dros 300 o filwyr yn cael eu hasesu am golli clyw ar 么l i bryderon gael eu codi am fflyd newydd o gerbydau arfog y Fyddin.

Ym mis Mehefin cafodd treialon rhaglen cerbydau Ajax gwerth 拢5.5bn eu hatal am yr eildro oherwydd cwynion bod s诺n yn effeithio ar y criw.

Ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Caffael Amddiffyn Jeremy Quin y byddai 310 o bobl yn cael cynnig asesiadau.

Mae'r cerbydau'n cael eu rhoi at ei gilydd gan gwmni General Dynamics ym Merthyr Tudful.

Mae adroddiad yn cael ei gynnal gan Gyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Mr Quin: "Er nad yw'r adroddiad wedi'i gwblhau eto mae'n amlwg bod pryderon dirgryniad wedi'u codi cyn i dreialon Ajax gychwyn yn yr Uned Treialon a Datblygu Arfog ym mis Tachwedd 2019."

Dywedodd y byddai "them芒u allweddol sy'n debygol o ddod i'r amlwg" o'r adroddiad yn cynnwys "pwysigrwydd cael diwylliant sy'n rhoi statws cyfartal i ddiogelwch ochr yn ochr 芒 chost ac amserlen".

Mae 248 o bobl wedi cael eu hasesu hyd yma, meddai.