91Èȱ¬

'Dyw'r feirws ddim yn jôc i bobl ifanc'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maisy EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae merch o Gasnewydd yn annog pobl ifanc i gael eu brechu ar ôl iddi orfod cael gofal dwys yn yr ysbyty am salwch yn ymwneud â Covid-19.

Mae Maisy Evans, 17, dal yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân, ar ôl cael triniaeth am geulad gwaed yn ei hysgyfaint.

Ar hyn o bryd, mae hi'n cael trafferth yn anadlu wrth wneud hyd yn oed y tasgau mwyaf syml.

Dywedodd nad ydy'r feirws yn "joc" i bobl ifanc.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Maisy Evans🤠

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Maisy Evans🤠

Rhannodd Maisy ei phrofiad ar y cyfryngau cymdeithasol wrth dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dechreuodd Maisy deimlo'n wael ar 13 Awst, deuddydd ar ôl cael ei dos cyntaf o frechlyn Covid.

Gwaethygodd ei chyflwr yn raddol, ac fe gafodd ei chludo i'r ysbyty ar 25 Awst, gyda meddygon yn amau bod ganddi meningitis neu sepsis.

Yn dilyn profion a sawl sgan, dywedodd bod meddygon bellach yn hyderus mai'r coronafeirws sydd wedi achosi'r ceulad yn ei hysgyfaint.

"Does gen i ddim problemau iechyd eraill, felly dydy'r symptomau difrifol ddim wedi eu hesbonio", meddai.

"Yn syml dwi wedi cael profiad drwg iawn o Covid-19."

Yn ogystal â'r ceulad, mae hi wedi cael cur yn ei phen, teimlo'n sâl, poenau yn ei chyhyrau a cholli ei gallu i flasu ac arogli.

Mae meddygon wedi dweud wrthi y gallai gymryd beth amser i wella.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Erbyn hyn mae Maisy ar gyfuniad o gyffuriau gwrthfiotig, steroidau, morffin a chyffur teneuo gwaed.

"Mae'r gofal wedi bod yn anhygoel", meddai'r cyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

"Mae'n rhyfedd i ddweud hyn, ond dwi'n meddwl y bydda' i'n gweld eisiau'r nyrsys ar y ward.

"Dwi'n diolch iddyn nhw am achub fy mywyd."

'Cymrwch y feirws o ddifri'

Ers rhannu ei phrofiad ar Twitter, mae Maisy wedi derbyn llawer o ymatebion gan bobl sy'n awgrymu bod ei salwch wedi ei achosi gan y brechlyn.

Mae meddygon wedi dweud bod sganiau yn dangos mai Covid-19 sydd wedi achosi'r salwch, nid y brechlyn.

"Mae pobl heb unrhyw gymhwyster iechyd yn dweud wrtha i taw'r brechlyn sydd wedi achosi'r ceulad gwaed.

"Mae darllen sylwadau gan bobl sy'n erbyn brechlynnau yn rhwystredig ofnadwy.

"Fe rannais i fy stori er mwyn annog eraill i amddiffyn ei hunain."

Ychwanegodd ei fod yn drist i weld "nad yw pobl yn fodlon derbyn bod Covid yn gallu achosi'r salwch yma; dy'n nhw ond eisiau cadw pobl i ffwrdd o'r brechlyn".

Mae ganddi bellach neges glir i'w chyfoedion: "Dyw'r feirws ddim yn jôc i bobl ifanc, a dylai'r rhai sy'n gymwys gael eu brechu."

"Plîs cymrwch y feirws yma o ddifri'."

Pynciau cysylltiedig