Rhybudd am amseroedd teithio yn sgil G诺yl y Banc heulog
- Cyhoeddwyd
Mae gyrwyr wedi cael eu rhybuddio y gallai amseroedd teithio ddyblu wrth i bobl heidio i fwynhau'r haul dros benwythnos G诺yl y Banc.
Ledled y DU mae disgwyl i 17 miliwn o deithiau gael eu gwneud dros y penwythnos yn sgil cynnydd yn nifer y bobl sy'n dewis mynd ar wyliau yn nes at adref oherwydd y pandemig.
Daw wrth i'r Swyddfa Dywydd ragweld mai Cymru fydd un o'r mannau twymaf yn y DU dros y penwythnos.
Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 22C i 23C mewn rhai mannau ddydd Sadwrn, a bydd tywydd tebyg ddydd Sul hefyd.
Mae cymdeithas foduro'r RAC yn rhybuddio y gallai gymryd dwywaith yr amser arferol i deithio ar yr adegau prysuraf y penwythnos hwn.
Mae hefyd yn amcangyfrif y bydd 16.7 miliwn o deithiau hamdden yn cael eu gwneud ledled y DU - o'i gymharu 芒 10.8 miliwn ar benwythnos G诺yl y Banc fis Mai, pan roedd mwy o gyfyngiadau Covid mewn grym.
Cyngor yr RAC ydy ceisio osgoi teithio yn y prynhawn os yn bosib, a gadael yn gynnar yn y dydd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio pobl i "beidio 芒 thrafferthu" mynychu unrhyw r锚fs anghyfreithlon am y bydd mwy o swyddogion ar waith i'w hatal.
Mae'r RNLI wedi rhybuddio pobl i "gymryd gofal a bod yn ymwybodol o'r peryglon" os yn ymweld ag arfordir Cymru, gan mai G诺yl y Banc mis Awst ydy un o adegau prysuraf y flwyddyn i wylwyr y glannau.
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd wedi galw ar bobl i gymryd gofal, gan ragweld y bydd rhagor o bwysau ar barafeddygon ac ysbytai wrth i fwy o bobl gymdeithasu yn sgil llacio'r cyfyngiadau.
"Ar adegau prysur fel hyn gall poblogaeth rhai ardaloedd yng Nghymru gynyddu'n aruthrol gydag ymwelwyr yn dod i fwynhau'r awyr iach," meddai Lee Brooks o'r gwasanaeth.
"Mae hyn yn golygu bod gennym lawer yn fwy o bobl i ofalu amdanynt, ac er bod cynlluniau mewn lle i ddelio 芒 hynny, ry'n ni'n gofyn i'r cyhoedd fod yn ddoeth pan ddaw at ddelio gyda digwyddiadau sydd ddim yn argyfyngau meddygol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd28 Awst 2021
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021