拢551m o gyllid i adfer gwasanaethau iechyd wedi Covid
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dros hanner biliwn o bunnoedd yn cael ei glustnodi i'r GIG er mwyn delio gydag effeithiau'r pandemig.
Mae'r Llywodraeth Cymru wedi dyrannu 拢411m ar gyfer costau parhaus delio 芒'r pandemig hyd at fis Ebrill 2022 a 拢140m ar gyfer adferiad a mynd i'r afael ag amseroedd aros.
Daeth y cyhoeddiad cyn i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod 624,909 o bobl ar restrau aros ym mis Mehefin - y nifer uchaf ar gofnod.
Cynyddodd nifer y bobl a oedd yn aros hiraf - mwy na naw mis - eto i 233,210.
'Lefelau na welwyd o'r blaen'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod effaith y pandemig ar wasanaethau iechyd a gofal Cymru wedi bod yn "enfawr".
"Mae pandemig Covid wedi cael effaith enfawr ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac maen nhw'n dal i wynebu costau sylweddol wrth iddyn nhw ddelio 芒'i effaith," meddai.
"Mae sgil-effaith delio 芒'r pandemig hefyd wedi bod yn enfawr. Mae rhestrau aros wedi cynyddu dros 33% ac maen nhw nawr ar lefelau na welwyd o'r blaen.
"Bydd yn cymryd amser i ddychwelyd i ble roedden ni cyn y pandemig a bydd angen buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio."
Ychwanegodd: "Bydd 拢100m yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau adfer byrddau iechyd, gan gynnwys cyflymu triniaeth y rhai sydd wedi bod yn aros yr amser hiraf.
"Bydd 拢40m ar gael ar gyfer cyfarpar ac addasu ysbytai ac adeiladau eraill i gynyddu capasiti ar gyfer triniaethau rheolaidd, tra'n parhau i gynnal mannau diogel o ran Covid."
Mae'r arian sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau yn ychwanegol i'r 拢100m o gyllid a gyhoeddwyd ym mis Mai i gefnogi cynllun adfer Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar 么l y pandemig.
Galw am wella recriwtio
Dywedodd Russell George AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd: "Mae croeso mawr i'r cyllid yma, ond mae'n hen bryd.
"Rhaid peidio anghofio bod y rhestrau aros hir iawn yma wedi bod yn cronni ers cyn y pandemig, ac mae methiant Llafur i drwsio'r to pan oedd yr haul yn tywynnu wedi arwain at gannoedd o filoedd o gleifion yn talu'r pris.
"Rhaid dechrau hyn gyda chynyddu capasiti, gan ddechrau gyda llenwi 3,000 o swyddi GIG sy'n wag ac arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd sy'n cael ei wario'n flynyddol ar staff dros dro."
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Mae'r 18 mis diwethaf wedi gwneud i ni gyd werthfawrogi ein gwasanaethau iechyd a gofal fel erioed o'r blaen.
"Ond ry'n ni hefyd wedi gweld breuder y gwasanaethau yna ac mae diffyg buddsoddiad gan sawl llywodraeth Lafur cyn y pandemig wedi arwain at orddibyniaeth ar ewyllys da ac ymroddiad staff iechyd a gofal.
"Tra fy mod yn croesawu unrhyw gyllid ychwanegol i'r GIG, a law yn llaw gydag unrhyw gynlluniau tymor byr i ddelio gyda'r sefyllfa wrth i ni fynd am y gaeaf, mae angen cynllun tymor hir i fuddsoddi'n llawn yn ein GIG.
"Mae hynny'n cynnwys cynllun recriwtio, cadw ac ailhyfforddi ein gweithlu i sicrhau bod digon o staff yn ein holl adrannau iechyd, ac ymrwymiad i anrhydeddu'r codiad cyflog gwreiddiol a gyhoeddwyd i'r GIG."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021