Lefel diweithdra yn gostwng ychydig yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru ostwng o 6,000 yn y tri mis rhwng Ebrill a Mehefin o'i gymharu 芒'r tri mis cyn hynny.
Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 62,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru.
Mae hynny'n 4.1% o'r bobl dros 16 oed, sy'n gyfradd is na'r cyfartaledd ledled y DU o 4.7%.
Ond o gymharu lefelau diweithdra rhwng Ebrill a Mehefin gyda'r un cyfnod yn 2020, mae 21,000 o bobl yn rhagor yn ddi-waith eleni.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod gostyngiad o 10,000 yn nifer y bobl sydd mewn gwaith o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd.
Mae nifer y di-waith a'r nifer sy'n gyflogedig yn newid ar raddfeydd gwahanol pan fo nifer y bobl sydd ar gael i weithio yn cynyddu neu'n gostwng.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 68,000 o swyddi yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn gan gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn y tri mis hyd at Fehefin 2021.
Ar hyn o bryd mae disgwyl i'r cynllun hwnnw ddod i ben ddiwedd mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020