91热爆

Perfformwyr 'methu aros' am 诺yl y Dyn Gwyrdd

  • Cyhoeddwyd
Greenman FestivalFfynhonnell y llun, Greenman Festival

Mae cynulleidfaoedd a pherfformwyr yng Nghymru sydd wedi ysu i ddychwelyd i wyliau mawr ar ben eu digon wrth i 诺yl y Dyn Gwyrdd ddigwydd y penwythnos yma.

Cafodd yr 诺yl ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei chanslo yr haf diwethaf o ganlyniad i gyfyngiadau coronafeirws.

Ond gyda'r rheolau nawr wedi'u llacio yng Nghymru, mae'r trefnwyr yn paratoi i groesawu miloedd o bobl yn 么l i'r safle ym Mhowys i weld perfformwyr fel Caribou, Fontaines D.C. a Mogwai.

Dyma'r 诺yl fawr gyntaf i ddigwydd heb amodau Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Ffynhonnell y llun, Greenman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Dyn Gwyrdd nawr yn ei 18fed blwyddyn fel g诺yl

Dechreuodd G诺yl y Dyn Gwyrdd yn 2003 fel g诺yl annibynnol yn hybu artistiaid ym meysydd cerddoriaeth, comedi a llenyddiaeth.

Mae bellach wedi tyfu i fod yn un o wyliau mwyaf Cymru gyda 25,000 o bobl a mwy na 150 o berfformwyr yn mynychu pob blwyddyn.

Eleni, roedd pryderon byddai'r 诺yl yn cael ei chanslo am yr eildro wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau yng Nghymru.

Ond gyda'r rhan fwyaf o reolau nawr wedi'i llacio, mae gan perfformwyr y cyfle i chwarae o flaen torfeydd llawn yr 诺yl unwaith eto.

'Greenman yw'r rheswm dechreuais fy mand'

Un o'r perfformwyr yma yw Melin Melyn, sydd wedi treulio mwyafrif o'u tair blynedd fel band wedi'u rhwystro gan y cyfnodau clo.

Dywedodd y canwr Gruff Glyn bod eu set ddydd Sadwrn yn hynod o bwysig iddyn nhw.

"Ni jyst yn ysu i gael chwarae yn fyw eto," meddai.

"Y Dyn Gwyrdd fydd y tro cyntaf i ni chwarae efo'n gilydd yn fyw yn iawn ers Mawrth 2020."

Ffynhonnell y llun, Melin Melyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Melin Melyn wedi rhyddhau eu EP cyntaf, Blomonj, yn ddiweddar

Nid cyfle i chwarae'n fyw eto yn unig yw hwn i Melin Melyn, ond hefyd carreg filltir bwysig i'r band.

"I fod yn hollol onest, Dyn Gwyrdd oedd y rheswm nes i ddechrau'r band," dywedodd Gruff.

"Dwi 'di bod i'r 诺yl cwpwl o weithiau... dwi jyst yn teimlo mor gartrefol 'ma ac o'n i'n cofio meddwl bod rhaid i fi gyfrannu'r i'r 诺yl 'ma rhywsut.

"A dyna sut 'nath y band ddechrau... mae'n fraint aruthrol, ni'n andros o gyffrous a jyst methu aros rili."

'Rili edrych 'mlaen'

Mae'n gyfle hefyd i berfformwyr profiadol chwarae'r 诺yl unwaith eto.

Mae Esyllt Sears yn gomed茂wraig o Aberystwyth ac wedi dweud bod y flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn heriol.

"Pan dwyt ti methu perfformio, mae'n effeithio ar y ffordd ti'n gallu datblygu dy ddeunydd, dy set, dy lais," meddai.

"Felly mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn o ran methu gallu 'neud hynny, achos dim ond hyn a hyn o berfformiadau yn y t欧 mae'r ci yn fodlon dioddef."

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Esyllt Sears yn dychwelyd i'r Dyn Gwyrdd ar 么l perfformio yno yn 2019

Mae Esyllt eisoes wedi perfformio yn y Dyn Gwyrdd, ond dywedodd fod y cyfle i ddychwelyd yn un arbennig.

"Dwi mor gyffrous! Pan ges i'r alwad yn gofyn a o'n i eisiau 'neud e, nes i ddim gofyn am unrhyw fanylion, nes i ddim gofyn pwy arall sydd ar y bill, nes i jyst dweud ie pl卯s," dywedodd.

"O'n i heb fod nes i fi berfformio yno cwpwl o flynyddoedd yn 么l, a nes i jyst cwympo mewn cariad gyda'r 诺yl felly dwi methu aros."

'Fi 'di cyffroi'

Nid yn unig perfformwyr sy'n gyffrous am y penwythnos i ddod.

Mae Elena Clarke yn mynychu gwyliau yn aml, ac yn edrych ymlaen mynd i'r Dyn Gwyrdd ar 么l ei fethu yr haf diwethaf.

"Ma'n cyfle i droi off, i feddwl am bethau gwahanol, i fynd rhywle lle mae pawb mwy neu lai yn hapus, mae pawb yn joia eu hunain," meddai.

"Fi 'di cyffroi, fi rili wedi cyffroi," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Elena Clarke
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elena Clarke yn gweld Dyn Gwyrdd fel rhywbeth positif i Gymru

Mae Elena, o Gaerdydd, hefyd yn meddwl bod yr 诺yl yn cael effaith bositif ar Gymru.

"Mae mor dda i gael rhywbeth fel Dyn Gwyrdd yng Nghymru, a dwi hefyd y caru bod nhw wastad yn cael perfformwyr sy'n siarad Cymraeg a hybu'r iaith," dywedodd.

"Ma' mor bwysig i ddiwylliant Cymru a Chymru ei hunain."

Mae G诺yl y Dyn Gwyrdd yn digwydd rhwng 19-22 Awst ym Mharc Glanusk