'Symud at gyfrifoldeb personol' os fydd llacio pellach
- Cyhoeddwyd
Mae prif swyddog meddygol Cymru wedi galw ar bobl i ymddwyn mewn ffordd "synhwyrol" os bydd mwyafrif y cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio ddydd Sadwrn.
Dywedodd Dr Frank Atherton fod cyfrifoldeb yn symud ymhellach tuag at ymddygiad personol pobl, ac i ffwrdd o reolau'r llywodraeth.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau ddydd Gwener a fydd y rheolau'n cael eu llacio o ddydd Sadwrn 7 Awst.
Bydd y newidiadau'n golygu na fydd uchafswm ar y nifer a allai gwrdd tu fewn, ond bydd dal angen masgiau yn y mwyafrif o leoliadau cyhoeddus dan do.
Byddai angen gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd, ond nid mewn tafarndai, bwytai nac ysgolion.
Ni fydd rheolau pellhau cymdeithasol yn rhan o'r gyfraith, ond bydd angen i leoliadau gynnal asesiadau risg i benderfynu ar fesurau diogelwch.
Cyfraddau achosion yn sefydlogi
Er bod trydedd don o achosion coronafeirws yn dal i ledaenu, dywedodd Dr Atherton ei bod yn iawn i lacio'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau sy'n weddill.
"Rydyn ni dal yn y drydedd don o'r coronafeirws yma yng Nghymru," meddai.
"Ond yr hyn rydyn ni wedi'i weld dros y 10 diwrnod diwethaf yw bod y cyfraddau - sydd wedi bod yn eithaf uchel - wedi bod yn sefydlogi, a hyd yn oed yn gostwng ychydig.
"A'r peth sydd hefyd yn rhoi cysur i mi yw bod y cyfraddau i bobl dros 60 oed wedi bod yn eithaf sefydlog ers cryn amser."
Dywedodd Dr Atherton fod y rhaglen frechu wedi creu newid syfrdanol i ledaeniad ac effaith y feirws, ac wedi helpu i dorri'r cysylltiad rhwng trosglwyddo'r feirws a niwed difrifol.
Mae hyn yn rhoi hyder iddo i lacio rheoliadau nawr, a dywedodd fod pobl Cymru wedi dangos amynedd a dealltwriaeth wrth i amryw reolau gael eu cyflwyno i fynd i'r afael 芒 lledaeniad y feirws.
"Rwy'n edrych yn 么l dros y flwyddyn ddiwethaf ar sut mae'r boblogaeth, sut mae pobl yma yng Nghymru, wedi ymddwyn," meddai.
"Yn amlwg bu eithriadau, ond mae pobl ar y cyfan wedi cydymffurfio'n fawr 芒'r rheolau. Maent wedi bod yn amyneddgar ac maent wedi deall y rhesymau pam y bu angen i ni gyflwyno cyfyngiadau."
Ychwanegodd Dr Atherton: "Gyda sefydlogi'r drydedd don hon, gyda mwyafrif y boblogaeth wedi'i brechu, mae'n bryd trosglwyddo'r cyfrifoldeb oddi wrth ddeddfwriaeth a rheoleiddio a mwy i ddisgwyliad o ymddygiad personol pobl.
"Trwy ymddwyn mewn ffordd synhwyrol, mewn ffordd ragofalus, gallwn amddiffyn ein hunain, amddiffyn ein hanwyliaid a gwarchod ein cymunedau.
"Rwy'n credu bod pobl Cymru wedi deall hynny, ac wedi ymateb i'r her, ac rwy'n gobeithio y byddant yn parhau i wneud hynny."
Mwyafrif helaeth wedi dilyn y rheolau
Mae'r ffaith i'r boblogaeth lynu gymaint at gyfyngiadau coronafeirws wedi synnu Dr Kimberly Dienes, sy'n ddarlithydd mewn seicoleg glinigol ac iechyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae hi wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru am oblygiadau posib ei rheolau ar ymddygiad y cyhoedd.
Yn wreiddiol o Chicago, dywedodd ei bod wedi arfer ag Americanwyr sy'n fwy gwrthryfelgar i reolau'r llywodraeth.
Dywedodd Dr Dienes: "Rwyf i, yn bersonol, wedi fy synnu ychydig ar lefel y glynu - synnu ei fod mor uchel.
"Byddech chi wir yn disgwyl yn ystod cyfnod mor anodd i bobl fod wedi cael rhywfaint o wrthryfel, rhai yn ymladd yn 么l.
"Mae rhai wedi gwneud, yn amlwg, ond mae'r mwyafrif helaeth wedi dilyn rheoliadau mewn gwirionedd - wedi gweithredu tuag at les y gymuned, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod yn gadarnhaol i'w weld trwy'r pandemig."
Pryder yn parhau i nifer
Felly sut fydd pobl yn ymddwyn pan fyddant yn cael cynnig y rhyddid mwyaf eto rhag cyfyngiadau coronafeirws?
Nid yw Dr Dienes yn disgwyl i'r mwyafrif fanteisio'n sydyn ar y cyfleoedd newydd.
"Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn hapus iawn ynghylch llacio rheoliadau, ond ar yr un pryd bydd teimlad o golli diogelwch hebddyn nhw.
"O hyn allan dim ond arweiniad, awgrymiadau - ac nid rheoleiddio - fydd yn bodoli.
"Ac mae hynny'n mynd i wneud rhai pobl yn orbryderus, ac ychydig yn ddryslyd ynghylch beth i'w wneud wrth symud ymlaen, ynghyd 芒'r hapusrwydd hwnnw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2021