Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder am effaith 'ddinistriol' gwersylla gwyllt ar natur
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi rhybuddio bod gwersylla gwyllt mewn gwarchodfeydd natur yn peryglu ecosystemau bregus yng Nghymru.
Daw'r rhybudd wedi i wardeniaid ddod o hyd i 40 pabell a thua 80 o bobl yn gwersylla yn anghyfreithlon yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal fore Sadwrn diwethaf, gan adael sbwriel a niweidio planhigion gwyllt.
Yn ystod y pandemig, mae wardeniaid yn Eryri wedi sylwi ar gynnydd mewn gwersylla anghyfreithlon yn ogystal 芒 phroblemau cysylltiedig fel gwastraff dynol, tanau a sbwriel.
Roedd 20% o amser wardeniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ei dreulio yn glanhau ar 么l ymwelwyr y llynedd yn hytrach nag ar waith cadwraeth pwysig.
'Effeithiau dinistriol'
Mae pryder arbennig am "effeithiau dinistriol" tannau gwyllt ar fyd natur a bywyd gwyllt.
Y penwythnos diwethaf, roedd o leiaf 30 barbeciw tafladwy wedi cael eu gadael ar y safle yng Nghwm Idwal.
Yn 么l yr Ymddiriedolaeth, gallai un t芒n ddadwneud dros 20 mlynedd o waith cadwraeth i adfer cynefin rhostir sych a phlanhigion prin.
Mae Partneriaeth Cwm Idwal, sy'n gyfrifol am ofalu a rheoli y Warchodfa Natur Genedlaethol, yn annog pobl i gynllunio ymlaen llaw cyn gwyliau'r haf ac i ymweld 芒'r safleoedd mewn ffordd cyfrifol a pharchus.
Dywedodd Simon Rogers, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal: "Mae natur mor fregus ar y mynyddoedd a rhywle fel Gwarchodfa Natur Cenedlaethol ble mae'r natur yma mor bwysig i'r byd - mae'n drist i weld.
"Un o'r pethau 'da ni'n poeni amdani mwy yw y tannau gwyllt, y tannau barbeciws ac ati achos mae hynna yn creu difrod i'r tir.
"Mae 'na beryg y gwneith y mynydd i gyd fynd ar d芒n... Byddai hynna yn absolute disaster wrth gwrs. Ond mae pethau bach yn gallu cael effaith hefyd."
Ychwanegodd: "Dwi wedi gweld cwpwl o dannau bach yn cael eu gwneud lle mae blodau prin yn tyfu.
"Doedden nhw ddim yn tyfu ar y pryd ond mae gwres yn mynd i fewn i'r ddaear ac yn gallu lladd y planhigion."
Er hyn, mae Mr Rogers yn falch fod gan Bartneriaeth Cwm Idwal "fwy o adnoddau nag erioed" i ymdopi 芒'r sefyllfa.
"Mae yna dipyn o wardeniaid o gwmpas a 'da ni yn mynd ar patrol. Mae'n ardal mor fawr, ac mae rhai pobl yn troi fyny yn ganol nos," meddai.
"Mae ganddon ni fwy o adnoddau eleni nag erioed, achos mae ganddon ni scheme wirfoddoli.
"'Da ni yn gweithio ar y cyd efo Cymdeithas Eryri a'r Parc Cenedlaethol a phartneriaid awyr agored ac ati, felly mae 'na griw o wirfoddolwyr sydd yn cefnogi y wardeniaid er mwyn trio lleihau yr effaith mae pobl yn ei gael, trio rhoi cyngor i bobol ar lle i fynd ac ati."