91热爆

Rhybudd i ymwelwyr wedi cynnydd gwrthdrawiadau ffordd

  • Cyhoeddwyd
A40

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar ymwelwyr i fod yn bwyllog ac yn amyneddgar dros yr haf yn dilyn cynnydd diweddar mewn gwrthdrawiadau ffordd yn yr ardal.

Mae ystadegau'r llu yn dangos y cafodd saith o bobl eu hanafu yn ddifrifol neu eu lladd mewn damweiniau ym mis Mawrth.

Cynyddodd y nifer i 17 ym mis Ebrill, 18 ym mis Mai a 21 ym mis Mehefin.

Pryder yr heddlu yw bod y cynnydd yn gysylltiedig gyda'r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn treulio eu gwyliau yng Nghymru.

Mae AS lleol wedi galw am welliannau ar yr A40, "un o'r ffyrdd mwyaf peryglus yng Nghymru", meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid i bobl "ddangos mwy o amynedd ar yr heolydd" meddai Ian Price

Wrth i reolau coronafeirws lacio ymhellach yng Nghymru, mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod traffig yn cynyddu yn yr ardal.

"Y pryderon sydd 'da ni yw bod traffig wedi cynyddu yn y misoedd diwethaf ers i fesurau lockdown ddod i ben", meddai'r Rhingyll Ian Price o'r Bartneriaeth Lleihau Damweiniau.

"Mae twristiaeth yn cynyddu yn ein hardal ni. Mae traffig yn cynyddu ar yr heolydd - peiriannau ffermwyr, a phobl yn seiclo.

"Falle bod nhw ddim yn gyfarwydd 芒'r teip yna o draffig. Mae traffig yn achosi pobl i gael llai o amynedd, ac mae pethau gwael yn digwydd oherwydd hynny."

Ychwanegodd: "Beth hoffwn ni weld yw pobl yn cymryd amser. Mae pobl yn gorfod dangos mwy o amynedd ar yr heolydd."

Mae aelod lleol o'r Senedd wedi disgrifio'r A40 rhwng Caerfyrddin a Sancl锚r fel "un o'r ffyrdd mwyaf peryglus yng Nghymru".

Mae'r ffordd ddeuol yn ddolen gyswllt bwysig i dwristiaid sydd yn teithio i Sir Benfro, ond mae hefyd yn heol bwysig i draffig amaethyddol yr adeg yma o'r flwyddyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r A40 yn ffordd bwysig i gerbydau amaethyddol

Yn 么l Cefin Campbell, aelod Plaid Cymru dros Orllewin Cymru a De Penfro, mae ystadegau yn dangos bod yna 359 o ddamweiniau wedi bod ar y rhan yma o'r A40 rhwng Ionawr 2010 ac Awst 2019.

Mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwelliannau brys oherwydd "peryglon mawr" ar y ffordd.

"Mae angen i'r llywodraeth ymateb ar frys. Mae adolygiad wedi cael ei wneud gan y llywodraeth," meddai.

"Ni eisiau gweld beth yw'r peryglon hynny. Ni'n galw ar y llywodraeth i ryddhau'r adroddiad i weld beth yw ffrwyth yr astudiaeth a beth maen nhw'n bwriadu gwneud i liniaru ar y peryglon ac i leihau'r anafiadau a'r marwolaethau.

"Mae'r Heddlu yn dweud am eu pryder bod mwy o bobl yn defnyddio'r ffordd yma ac eraill ar draws Cymru wrth i fwy o bobl ddod ar wyliau yma. Mae'r lefel traffig yn mynd i fod cymaint uwch dros yr haf."

Casgliadau yn y 'dyfodol agos'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "diogelwch ar y ffyrdd yn fater difrifol".

"Mae astudiaeth ar y gweill sydd yn edrych ar y rhan yma o'r A40, sydd yn ystyried diogelwch a materion eraill.

"Fe fyddwn ni yn ystyried y casgliadau cyn gynted ag y mae'r astudiaeth wedi ei chwblhau."

Mae disgwyl i'r astudiaeth gael ei chyhoeddi yn y "dyfodol agos" yn 么l y llywodraeth.

Pynciau cysylltiedig