Jonathan Edwards ddim am ailymuno 芒 Phlaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn parhau fel Aelod Seneddol annibynnol, er i'w waharddiad o Blaid Cymru am 12 mis ddod i ben.
Fe gafodd Jonathan Edwards ei wahardd o'r blaid yng Ngorffennaf 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd heddlu am ymosod ar 么l cael ei arestio yn ei gartref.
Dydy o ddim wedi gwneud cais i ailymuno 芒 Phlaid Cymru - y cam cyntaf yn y broses o ddychwelyd i'r blaid.
Mae Mr Edwards yn dweud ei fod eisiau canolbwyntio'n llwyr ar y dasg o gynrychioli ei etholwyr.
Eistedd fel AS annibynnol
Mae'r 91热爆 yn deall nad ydy wedi gwneud penderfyniad terfynol yngl欧n 芒'i ddyfodol, ond ar hyn o bryd dydy o dal ddim yn Aelod Seneddol Plaid Cymru.
Fe wnaeth Mr Edwards gyfeirio ei hun at broses ddisgyblu'r blaid ar 么l cael ei arestio, ac fe gafodd y chwip ei dynnu oddi arno, sy'n golygu ei fod wedi bod yn eistedd fel AS annibynnol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Aelod Seneddol bod "Mr Edwards yn canolbwyntio yn llwyr ar y dasg o gynrychioli ei etholwyr yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr i orau ei allu, fel y mae wedi'i wneud am yr 11 mlynedd ddiwethaf".
Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi derbyn cais gan Mr Edwards i ailymuno 芒'r blaid.
Roedd panel disgyblu'r blaid ar y pryd wedi ei alw'n "fater difrifol".
Dywedodd聽bod "codi'r gwaharddiad ar 么l 12 mis yn ddibynnol ar Mr Edwards yn ymddangos gerbron y panel i ddangos ei fod wedi cymryd cyfnod i hunan fyfyrio a dysgu i fynd i ddelio 芒'i weithredoedd".
Ychwanegodd y blaid y byddai Mr Edwards yn cael ei ddiarddel os yw'n "methu 芒 chadw at dermau'r gwaharddiad".
Edifar 'yn fwy na dim'
Dywedodd Mr Edwards ar y pryd ei fod yn "wir ddrwg ganddo" a'i fod yn edifar y digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".
Mewn datganiad ar ran ei wraig y llynedd, dywedodd Emma Edwards: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ng诺r.
"Trwy gydol y degawd rydyn ni wedi bod gyda'n gilydd mae wedi bod yn 诺r a thad cariadus a gofalgar."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2020