91热爆

Rheolau Covid-19: Llacio pellach yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
rheolau covidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gweinidog yn awgrymu y gallai rheolau Covid-19 gael eu lacio ymhellach yng Nghymru

Fe allai rhagor o reolau Covid-19 gael eu newid yn yr wythnosau nesaf o orfodaeth gyfreithiol i gyngor llywodraeth yn 么l un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mick Antoniw wrth 91热爆 Cymru fod y wlad yn "symud i gam ble ry'n ni yn cael normalrwydd cynyddol." Ond pwysleisiodd y byddai gweinidogion a swyddogion yn pwyso a mesur y wybodaeth ddiweddaraf cyn yr adolygiad nesaf ar 15 Gorffennaf.

Mae disgwyl i'r holl gyfyngiadau cyfreithiol yn Lloegr gael eu codi ar 19 Gorffennaf. Mae Llywodraeth yr Alban yn gobeithio gallu gwneud hynny ar 9 Awst.

Gan nad oes yna ddyddiad wedi ei bennu yma yng Nghymru, mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn "sownd mewn meddylfryd cyfnod clo".

Wrth ymateb i'r cynlluniau yn Lloegr, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies:

"Mae hi'n bryd i Lywodraeth Cymru roi eglurder am y llwybr yn 么l i normalrwydd."

Ystyried y wybodaeth ddiweddaraf

Wrth gael ei holi ar raglen Politics Wales 91热爆 Cymru dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru:

"Mae nifer yr achosion yn codi ond mae llai o bobl yn cael triniaeth ysbyty. Ry'n ni am barhau gyda'r rhaglen frechu a sicrhau bod cymaint o bobl ag sy'n bosibl yn cael y brechiad.

"Tua 15 Gorffennaf fe fyddwn ni yn cynnal adolygiad ac yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf cyn penderfynu pa fesurau y gallwn ni eu cyflwyno i lacio'r reolau."

Dywedodd Mr Antoniw ei bod hi'n anodd gosod dyddiad penodol gan bod y sefyllfa yn dibynnu cymaint ar y wybodaeth sydd i'w chael am gyfraddau heintio.

"Ry'n ni yn bendant yn symud i gyfeiriad llawer mwy o normalrwydd ond fe fydd y pandemig gyda ni am gryn amser eto" ychwanegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Awgrymodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru y gallai rheolau Covid-19 gael eu llacio ymhellach yma.

Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu hadolygu yn yr wythnos sy'n dechrau ar 12 Gorffennaf. Mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi casgliadau'r adolygiad hwnnw tua diwedd yr wythnos honno.

Dywedodd Mick Antoniw ei fod e'n rhagweld y bydd yna newid erbyn hynny yn y ffordd y bydd risgiau yn cael eu hasesu:

"Ry'n i yn edrych ar beth yn fwy y gallwn ni ei wneud o safbwynt canllawiau a chyngor oherwydd ei bod hi'n glir erbyn hyn ein bod ni'n symud i gam ble mae gennym ni normalrwydd cynyddol.

"Ond fe fydd ein penderfyniadau yn seiliedig ar realiti'r sefyllfa a'r ffaith bod yna risgiau yn bodoli o hyd" meddai.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 4 Gorffennaf nad oedd yna farwolaethau newydd yn gysylltiedig a Covid-19 yng Nghymru. Roedd yna 535 o achosion newydd.