Sally Holland: 'Angen newid rheol mygydau yn yr ystafell ddosbarth'
- Cyhoeddwyd
Dylai'r argymhelliad i wisgo mygydau mewn ystafelloedd dosbarth gael ei newid "ar unwaith", yn 么l Comisiynydd Plant Cymru.
Galwodd Sally Holland hefyd am roi'r gorau i ynysu torfol o'r ysgol a chyflwyno dull wedi'i dargedu'n well.
Dywedodd fod cyfyngiadau ar blant mewn ysgolion "ddim yn cydweddu o gwbl" gyda'r rhyddid sy'n cael ei roi i oedolion.
Ddydd Llun, cyhoeddwyd cynlluniau gan y gweinidog addysg, Jeremy Miles i ganiat谩u i ysgolion lacio neu dynhau mesurau yn 么l risg leol.
"Mae oedolion yng Nghymru nawr yn medru eistedd mewn tafarn gyda ffrindiau o chwe aelwyd wahanol, heb orfod gwisgo gorchudd wyneb, tra bod y mwyafrif o ddisgyblion uwchradd yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb dwy'r dydd, bob dydd, pan yn eistedd, er y wybodaeth sydd gennym am yr effaith ar eu haddysg," meddai Sally Holland.
Ychwanegodd fod mygydau yn parhau i effeithio ar ddysgu a phrofiad addysgol pobl ifanc ac os nad yw'n bosib cael gwared arnyn nhw ar unwaith, yna dylid eu dileu erbyn dechrau'r tymor nesaf.
Roedd gofynion hunan-ynysu torfol ar gyfer pobl ifanc hefyd yn niweidiol, meddai, ac mae wedi galw am ddull sydd "wedi'i dargedu" - yn debyg i'r hyn sy'n cael ei dreialu yn Lloegr ar hyn o bryd.
Mae'r cynllun peilot yn Lloegr wedi bod yn defnyddio profion dyddiol mewn ymateb i achosion Covid, yn hytrach na bod gr诺p ehangach o ddisgyblion yn gorfod ynysu.
Ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles mai mater i ysgolion, colegau a phrifysgolion unigol fyddai penderfynu ar eu rheolau diogelwch Covid eu hunain yn y dyfodol - fel pellhau cymdeithasol, masgiau wyneb a phrofi - gan ddilyn fframwaith cenedlaethol.
Mae undebau a gwleidyddion wedi dweud bod diffyg eglurder yngl欧n 芒 chyhoeddiad Mr Miles.
Dadansoddiad ein Gohebydd Addysg, Bethan Lewis
Roedd 411 o brofion Covid positif ymhlith staff ysgolion a disgyblion yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru - i fyny o 292 yn y saith diwrnod blaenorol.
Mae'r niferoedd uchaf yn dal i fod yng ngogledd Cymru, sy'n cyfrif am 206 o'r profion positif.
Ond mae'r llun yn parhau i fod yn gymharol sefydlog mewn rhai rhannau eraill o Gymru.
Mae data Llywodraeth Cymru ar wah芒n yn rhoi cipolwg ar effaith achosion positif.
Mae'r ffigyrau diweddaraf o 24 Mehefin yn dangos bod 12,645 o ddisgyblion yn absennol o'r ysgol am reswm cysylltiedig 芒 Covid. Dyna 3.2% o bron i 400,000 o ddisgyblion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021