Denmarc fydd yn herio Cymru yn rownd yr 16 olaf
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru nawr yn gwybod pwy fyddan nhw'n wynebu yn rownd 16 olaf Euro 2020 yn Amsterdam nos Sadwrn nesaf.
Denmarc fydd y gwrthwynebwyr wedi iddyn nhw ennill gêm ddramatig yn erbyn Rwsia nos Lun. Fe lwyddon nhw hefyd i sgorio digon i orffen yn ail yn eu grŵp ar wahaniaeth goliau.
Roedd hi'n noson emosiynol yn Copenhagen - yno hefyd oedd eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth pan gafodd eu seren Christian Eriksen ataliad ar y galon yn ystod y gêm yn erbyn Y Ffindir.
Yr her sy'n wynebu Cymru
Er iddyn nhw golli eu dwy gêm agoriadol yn y grŵp mi brofodd Denmarc eu bod nhw'n dîm o safon i guro Rwsia o 4-1 yn Copenhagen.
Maen nhw'n 10fed ar restr detholion y byd ac er na fydd Christian Eriksen ar gael mae ganddyn nhw chwaraewyr o safon... golwr CaerlÅ·r Kasper Schmeichel, yr amddiffynnwr Simon Kjaer a'r ymosodwr Yussuf Poulsen.
Yn ôl cyn ymosodwr Cymru, Iwan Roberts mi fydd hi'n gêm anodd i dîm Robert Page ond mae o'n hyderus bod Cymru ddigon da i'w curo nhw yn Amsterdam bnawn Sadwrn.
"Mae ganddyn nhw chwaraewyr sy'n medru brifo unrhyw dîm, ond yn amddiffynnol yn y gystadleuaeth yma mae Cymru wedi bod yn arbennig gan ildio dim ond dwy gol, a dwi'n hyderus os y byddwn ni'n medru perfformio fel y gwnaethon ni yn erbyn Twrci mi fyddwn ni drwodd i rownd yr 8 olaf."
Mae'r ddwy wlad wedi wynebu gilydd 10 gwaith gyda Chymru yn ennill pedair a Denmarc yn ennill chwech, ac mae Denmarc wedi ennill tair o'r pedair ddiwethaf.
Bydd Cymru felly herio Denmarc yn y Johan Cruijff ArenA yn Amsterdam nos Sadwrn, 26 Mehefin gyda'r gic gyntaf am 17:00 ein hamser ni.
Cofiwch ddilyn y cyfan ar lif byw arbennig 91Èȱ¬ Cymru Fyw, a bydd hwnnw'n dechrau am 15:30.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2021