Covid-19: Bron pob achos y gogledd yn amrywiolyn Delta
- Cyhoeddwyd
Mae bron i bob achos coronafeirws yng ngogledd Cymru bellach yn achosion o'r amrywiolyn Delta, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r amrywiolyn, a ddaeth i'r amlwg yn India yn wreiddiol, yn parhau i fod y straen mwyaf cyffredin yng ngogledd Cymru - gydag achosion yn agos at 100 fesul 100,000 mewn rhai ardaloedd.
Yn Sir y Fflint, mae'r gyfradd achosion saith diwrnod bellach yn 99.9, yng Nghonwy mae'n 88.7, yn Sir Ddinbych mae'n 72.1, ac yn Wrecsam mae 51.5 o achosion fesul 100,000.
Mae'n debygol bod y cynnydd yn yr ardaloedd hyn yn gysylltiedig 芒 theithio ar draws y ffin 芒 gogledd-orllewin Lloegr.
Mae pobl yn y gogledd yn cael eu cynghori i gadw pellter cymdeithasol, i dderbyn y cynnig o frechlyn, ac i hunan-ynysu a chael prawf os byddant yn cael unrhyw symptomau coronafeirws.
Cyfanswm nifer yr achosion o amrywiolyn Delta yng Nghymru gyfan yw 788, sef cynnydd o 209 ers y diweddariad diwethaf ddydd Llun 21 Mehefin.
'Angen cymryd camau diogelwch'
Dywedodd Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiad ICC: "Mae'n wybyddus mai amrywiolyn Delta yw'r mwyaf cyffredin ym mhob achos newydd yng Nghymru a dangoswyd ei fod yn cael ei drosglwyddo'n haws o berson i berson na'r amrywiolyn amlycaf blaenorol, sef Alffa.
"Mae hyn yn golygu bod angen i ni gyd gymryd camau i gadw ein hunain yn ddiogel a lleihau'r risg o drosglwyddo.
"Mae ein cyngor yn arbennig o berthnasol i bobl sy'n teithio i ardaloedd lle mae clystyrau hysbys o'r coronafeirws oherwydd bod trosglwyddo'r amrywiolyn yn y gymuned yn amlwg."
Ychwanegodd: "Rydym yn gweld achosion yn cynyddu dros Gymru ond yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru lle mae teithio i Loegr ar gyfer gwaith a hamdden ac oddi yno yn gyffredin.
"Byddwch yn ymwybodol o Covid pan fyddwch yn teithio. Rydym i gyd yn gyfarwydd iawn 芒 chadw pellter cymdeithasol erbyn hyn, ond, drwy gadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb gallwn gadw ein hunain a'n ffrindiau a'n teulu'n ddiogel.
"Derbyniwch y cynnig i gael brechiad pan fyddwch yn ei gael, oherwydd bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar 么l dau ddos.
"Mae awyru lleoedd dan do yn ffordd effeithiol arall o leihau lledaeniad yr haint, felly drwy agor ffenestri a drysau, gallwn ddiogelu ein hunain ymhellach.
"Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau Covid, rhaid i chi hunan-ynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2021