Rhybudd Gweinidog Newid Hinsawdd newydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gymru wneud ddwywaith gymaint ynghylch newid hinsawdd yn y 10 mlynedd nesaf "nag yr ydym wedi ei wneud yn y 30 mlynedd diwethaf", yn 么l Gweinidog Newid Hinsawdd newydd Cymru.
Dywed Julie James AS y byddai hynny'n "estyn targed uchelgeisiol" ond byddai'n bosib cyrraedd y targed yna.
Mae'n fwriad i adolygu holl gynlluniau ffordd Cymru a bydd deddf newydd yn cael ei chyflwyno yn y flwyddyn nesaf i fynd i'r afael 芒 llygredd awyr.
Mae Cymru'n anelu at sicrhau 'allyriadau sero net' erbyn 2050 ond roedd sawl rhybudd mewn gan bwyllgor sy'n cynghori llywodraethau'r DU.
Dywedodd yr adroddiad bod "sawl dangosydd gwaelodol a'r diffyg strategaeth gydlynol ar draws yr economi ar gyfer 2050 - ar lefel Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru - yn golygu nad yw Cymru, ar hyn o bryd, ar drywydd cyrraedd y targed cyfredol o 80%, heb s么n am sero net".
Wrth siarad ar raglen 91热爆 Politics Wales, dywedodd Julie James: "Mae'n bosib i'w wneud e ond mae'n golygu y bydd yn rhaid i bawb chwarae eu rhan.
"Mae yna rai pethau sydd angen newid... ond yr hyn mae angen i ni wneud yw gosod amodau fel nad yw pobl yn aberthu pethau er mwyn helpu'r hinsawdd."
'Materion cymhleth'
Mae Cyfeillion Y Ddaear Cymru wedi galw am wahardd unrhyw ffyrdd newydd yng Nghymru.
Pan ofynnwyd a oes angen gwaharddiad o'r fath, atebodd Ms James: "Mae'n hawdd dweud, 'wrth gwrs, wnawn ni ddim codi ffyrdd newydd'.
"Ond mae yna faterion gwirioneddol gymhleth yn ymwneud ag ansawdd aer, pa lwybrau y mae pobl yn teithio arnyn nhw, sawl car sydd ar y ffordd ac yn y blaen."
Byddai cynllun Llwybr Coch Glannau Dyfrdwy ar gyfer rhan o'r A55 yn Sir Y Fflint yn cynnwys darn wyth milltir (13km) newydd o ffordd ddeuol a gwelliannau ac addasiadau eraill.
Dywed Ms James y bydd y llywodraeth, fel rhan o strategaeth drafnidiaeth newydd, yn "cynnal adolygiad cyflym o ein holl gynlluniau ffordd, gan adolygu cynlluniau ffyrdd newydd a ffyrdd sy'n bod."
Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd benderfynu ddydd Iau a fydd un o ffyrdd allweddol y brifddinas, yn ailagor i gerbydau preifat wedi trefniant dros dro yn sgil Covid-19.
Dywedodd Ms James mai mater i'r cyngor yw hwnnw ond ychwanegodd eu bod wedi gweithredu'n "arbennig o dda" o ran trefnu llwybrau teithio ar draws y ddinas yn anterth y pandemig "a byddwn ni eisiau eu hannog yn fawr iawn i barhau ar y trywydd yna".
Mae Deddf Aer Gl芒n - un o addewidion Llafur Cymru yn ymgyrch etholiad Senedd Cymru ym mis Mai - "yn bendant" yn flaenoriaeth i'r llywodraeth, meddai, ac mae'n fwriad i'w chyflwyno dros y flwyddyn nesaf.
Ychwanegodd: "Mae gyda ni lawer o waith i'w wneud i sicrhau'r holl seilwaith briodol i fonitro ansawdd yr aer ac i wneud yn si诺r bod pobl yn gwneud y pethau cywir."
Bydd adolygiad hefyd i gymhorthdal Llywodraeth Cymru ar gyfer hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys M么n. Dywedodd Ms James ei bod 芒 meddwl agored ynghylch dyfodol yr hediadau.
"Dydw i ddim yn gwybod beth yw effaith yr awyren yna ar yr amgylchedd oherwydd dydw i ddim yn gwybod beth fyddai teithwyr yr awyren yn ei wneud petai nhw ddim ar yr awyren.
"Felly mae'n fater mwy cymhleth na datganiad syml bod 'awyren yn ddrwg, a char yn dda'. Pe byddai'r holl bobl yna'n troi at geir, fe allen ni waethygu'r sefyllfa a dwi wir ddim yn gwybod beth yw'r ateb."
Mae'r llywodraeth wedi gohirio codi pwerdai bio-m脿s dros dro ac fe ofynnwyd ai camgymeriad oedd eu caniat谩u yn yn y gorffennol.
Atebodd Ms James: "Nid oeddwn yn gwybod deng mlynedd yn 么l yr hyn rydym yn ei wybod nawr.
"Mae'r llywodraeth yn symud ymlaen wrth i ni ddysgu pethau newydd yn wyddonol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020