Cyngor Celfyddydau Cymru yn penodi pennaeth newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi mai Sian Tomos fydd yn olynu Nick Capaldi fel prif weithredwr.
Cyhoeddodd Mr Capaldi fis Rhagfyr 2020 y bydd yn ymadael 芒'r swydd yn haf 2021.
Sian Tomos yw cyfarwyddwr datblygu celfyddydau presennol y Cyngor.
Ymunodd 芒'r corff pan sefydlwyd y Cyngor yn wreiddiol a bu'n gyfarwyddwr rhanbarthol y gogledd am dros 10 mlynedd.
Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi.
Dywedodd Phil George, cadeirydd y Cyngor: "Mae gan Sian angerdd dros ddemocratiaeth ddiwylliannol a thros Gymru o gymunedau amrywiol sy'n ymgysylltu 芒'r celfyddydau.
"Bydd ei phrofiad a'i hanes o gyflawni yn gaffaeliad iddi arwain y Cyngor ac eiriol dros y sector.
"Bydd yn ein llywio ar hyd y daith at Gymru decach a chynhwysol.
"Hoffwn ddiolch i Nick Capaldi am ei gyfraniad gwych at gelfyddydau Cymru dros y blynyddoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020