91热爆

'Cynnig brechlyn i bob oedolyn erbyn yr wythnos nesaf'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros 2.18 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf

Bydd pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig dos cyntaf o frechlyn Covid-19 erbyn dechrau'r wythnos nesaf, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Mae hynny dros fis ynghynt na'r targed gwreiddiol, sef diwedd Gorffennaf.

Mae'r llywodraeth yn disgwyl y bydd 75% o'r boblogaeth wedi cael eu dos cyntaf erbyn dechrau'r wythnos nesaf.

Bydd y ffocws yna'n troi at sicrhau bod pawb yn derbyn ail ddos, ac mae disgwyl y bydd hynny wedi'i gwblhau erbyn diwedd Medi.

86% o oedolion wedi'u brechu

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod dros 2.18 miliwn o bobl - 86% o oedolion Cymru - wedi cael eu dos cyntaf, tra bod 1.25 miliwn wedi derbyn y cwrs llawn o ddau ddos.

Dywedodd y llywodraeth bod dros 90% o bobl dros 60 oed, gweithwyr iechyd, staff a thrigolion cartrefi gofal a rheiny yn y categori mwyaf bregus o ran eu hiechyd wedi derbyn y cynnig o gael y brechlyn cyntaf.

Ychwanegodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun y bydden nhw yn "barod am benderfyniadau ar bigiadau booster a brechu plant pan fo'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn eu gwneud nhw".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford bod y datblygiad yn "deyrnged i waith caled pawb sy'n rhan o'r rhaglen"

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "falch iawn o ddweud bod gan Gymru un o'r rhaglenni brechu Covid gorau yn y byd".

"Byddwn wedi cynnig brechlyn i bob oedolyn cymwys chwe wythnos ynghynt na'r amserlen ac rydym yn disgwyl i'r gyfradd o bobl sydd wedi manteisio ar y cynnig gyrraedd 75% ar draws yr holl grwpiau blaenoriaeth a grwpiau oedran fis ynghynt na'r targed," meddai.

"Mae hyn yn dipyn o gamp sy'n deyrnged i waith caled pawb sy'n rhan o'r rhaglen - i'r holl rai sy'n gwneud y gwaith cynllunio cymhleth y tu 么l i'r llenni ac i'r miloedd o bobl sy'n brechu ac yn helpu i gynnal y clinigau ledled y wlad.

"Rydych chi'n gwneud gwaith rhagorol. Rwy'n hynod o falch a diolchgar am bopeth rydych chi'n ei wneud i helpu i ddiogelu Cymru rhag y feirws ofnadwy hwn."

'Gadael neb ar 么l'

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan y bydd Llywodraeth Cymru'n "rhoi pob gewyn ar waith i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar 么l".

"Gan ddibynnu ar y cyflenwad o'r brechlynnau, rydym yn hyderus y byddwn yn parhau i gyflenwi'r ail ddos mor gyflym ac mor llwyddiannus 芒'r dos cyntaf," meddai.

"Rydym yn disgwyl y bydd pawb sydd wedi dod ymlaen am eu dos cyntaf yn cael cynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Prif Weinidog bod y bwlch yn nifer y bobl o wahanol gefndiroedd sy'n cael eu brechu "yn cau"

Ychwanegodd y Prif Weinidog yn y gynhadledd bod y bwlch yn y nifer sy'n derbyn y cynnig o gael eu brechu "yn cau" rhwng gwahanol grwpiau.

Dywedodd bod gan y llywodraeth bryder yn wreiddiol bod llai o bobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig eraill yn awyddus i gael eu brechu, a bod bwlch hefyd rhwng pobl fwy cyfoethog a rheiny sy'n dlotach.

"Fe wnaeth pobl fwy cyfoethog ddod yn eu blaenau mewn mwy o niferoedd na'r rheiny sydd ag amgylchiadau mwy heriol," meddai.

"Ond y newyddion da ydy bod y system wedi gwneud ymdrech ychwanegol gyda'r grwpiau hynny, ac mae hynny'n dangos yn nifer y bobl sydd wedi dod yn eu blaenau i'w dderbyn."

Brechiad arall yn yr hydref?

Dywedodd Mr Drakeford hefyd ei bod yn bosib y bydd angen i bobl dderbyn brechlyn arall yn yr hydref oherwydd "dydyn ni'n dal ddim yn gwybod llawer am coronafeirws".

"Dydyn ni ddim yn gwybod am ba hyd mae imiwnedd naturiol yn para - rheiny sydd wedi cael y salwch ac felly sydd ag ychydig o imiwnedd - dydyn ni ddim yn gwybod pryd mae hynny'n gwanhau," meddai wrth y gynhadledd.

"Dydyn ni ddim yn sicr am ba mor hir mae'r brechlyn yn amddiffyn pobl, ac rydyn ni'n gweld amrywiolion newydd hefyd."

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn "hyderus iawn" bod y rhaglen frechu yn atal y nifer sydd angen triniaeth ysbyty pan yn ystyried amrywiolyn Caint - yr amrywiolyn mwyaf cyffredin yng Nghymru.

Ond dywedodd Mr Drakeford nad ydyn nhw'n sicr eto a ydy'r brechlyn yr un mor llwyddiannus yn lleihau'r nifer sydd angen triniaeth ysbyty pan ddaw at yr amrywiolyn Delta - a ddaeth i'r amlwg yn wreiddiol yn India.