Eisteddfod T 'yn llwyddiant ysgubol unwaith eto'

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd oriau eu darlledu ar S4C ac ar Radio Cymru

Mae cyfarwyddwr yr Urdd wedi disgrifio Eisteddfod T fel "llwyddiant ysgubol eto eleni" gyda safon cystadlu "syfrdanol", wrth i'r 诺yl ddod i ben.

"Mi ydan ni wedi cael wythnos fendigedig yma yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, ac wrth ein boddau o fedru cael cynnal elfennau byw ar leoliad, yn enwedig felly'r Prif Seremon茂au," meddai Si芒n Eirian.

"Fel arall mae ein beirniad wedi bod yn datgelu'r canlyniadau ar deledu byw, o'u cartrefi, ynghyd 芒'r holl gystadlu yn digwydd yn ddigidol.

"Mi ydan ni wedi, ac yn parhau i fod yn cael ymateb gwych gan y gynulleidfa adref."

Ffynhonnell y llun, Urdd

Fe ddenodd yr Eisteddfod T dros 13,000 o gystadleuwyr mewn 134 o gystadlaethau.

Roedd yna gyfle i'r gynulleidfa adref weld y cyfan wrth i S4C ddarlledu 37 awr ac roedd 25 awr ar 91热爆 Radio Cymru a 91热爆 Radio Cymru2, ynghyd 芒 gweithgareddau ar Ap Eisteddfod yr Urdd a'r cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Rydym yn falch iawn o gael arddangos talentau a doniau ieuenctid Cymru unwaith eto ar S4C.

"Er gwaetha'r siom o golli wythnos Eisteddfod yr Urdd ar ei ffurf draddodiadol eto eleni, mae Eisteddfod T unwaith eto wedi gallu camu i'r adwy a chreu digwyddiad unigryw, cyffrous ac arloesol."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y prif seremon茂au eu cyflwyno o Wersyll yr Urdd yn Llangrannog

Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd Cynnwys 91热爆 Radio Cymru ei bod wedi bod yn bwysig fod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn cystadlu ar 91热爆 Radio Cymru ac yn cyflwyno ar 91热爆 Radio Cymru2.

"Mae hi wedi bod yn wythnos benigamp a chystadleuwyr brwd Eisteddfod T wedi rhoi gwledd i'n gwrandawyr," meddai.

"Mae hi'n hanfodol fod ieuenctid Cymru yn cael llwyfan cenedlaethol i arddangos eu doniau ac mae 91热爆 Radio Cymru mor falch o fod wedi gallu darparu hynny, ynghyd ag S4C yr wythnos hon."

C么r yr Urdd yn teithio i Alabama

Bu teilyngdod yn holl brif seremon茂au Eisteddfod T, gyda'r canlynol yn cipio tlws arbennig yr un: Phoebe Skinner o Gaerdydd (Prif Ddysgwr), Rhiannon Gwyn o Sling ger Bethesda (Prif Artist), Alaw Grug Evans o Bontyberem (Prif Gyfansoddwr), Rhiannon Lloyd Williams o Gaerdydd (Prif Ddramodydd), Sioned Medi Howells o New Inn, Pencader (Prif Lenor) a Kayley Sydenham o Gasnewydd (Prifardd).

Yn ystod yr wythnos cyhoeddwyd bod enillydd cystadleuaeth Unawd 19-25 Eisteddfod T, Dafydd Jones o Lanrhaeadr, Sir Ddinbych, yn cael ei wahodd i berfformio fel gwestai arbennig yng Ng诺yl Cymru Gogledd America 2021, a gynhelir yn Utica, Efrog Newydd ym mis Medi.

Bydd 16 o fuddugwyr Eisteddfod T hefyd yn cael y cyfle i ymuno 芒 ch么r newydd sbon - C么r yr Urdd - fydd yn teithio i Alabama fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y mudiad yn 2022.