Eisteddfod T: Enillwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth yr adran iau
- Cyhoeddwyd
Fel rhan o Eisteddfod T eleni, y dasg i ffotograffwyr ifanc Cymru oedd i dynnu llun ar y thema Fy Milltir Sgw芒r.
Y ffotograffydd Betsan Evans gafodd y dasg anodd o ddewis y tri chystadleuydd ddaeth i'r brig yn y categori o dan 14 oed:
Mae wedi bod yn bleser beirniadu'r gystadleuaeth boblogaidd yma, a chael fy adlonni gyda'r ffordd mae cystadleuwyr wedi dehongli eu milltir sgw芒r.
Dwi'n ffotograffydd sy'n arbenigo ar ddal momentau ag emosiwn felly pan mae llun yn taro'r galon ac yn gwneud i chi deimlo emosiwn neu'n sbarduno atgofion, i fi dyma beth sy'n gwneud llun da.
Gyda dros 120 o gystadleuwyr arbennig, roedd hi wir yn anodd iawn dewis y 1af, 2il a 3ydd.
1af: Cadi Fflur Midwood, Uwch Adran Botwnnog
Dwi wrth fy modd gyda llun Cadi. Yr ongl a'r cyfansoddiad sydd yn ei wneud e'n lun tirwedd arbennig. Mae wedi dal ei milltir sgw芒r ar ei gorau.
Mae'r linell sydd fel bwa yn gwneud i'r llygaid drafaelu o gwmpas y llun mewn cylch sydd yn di-ddiwedd, sy'n gwneud hi'n anodd tynnu'r llygaid bant o'r llun. Mae'n codi'r chwant eisiau byw yn y milltir sgw芒r yma.
Da iawn a llongyfarchiadau!
2ail: Gwen Rhys, Adran Cerrigydrudion
Llun sydd wedi ei gymryd yn ystod yr eurawr, sef yr amser gorau i dynnu llun tirwedd. Mae'r lliwiau'n hudolus a dwi'n dwlu ar sut mae golau'r haul yn saethu trwy'r coed ac yn erbyn y niwl sy'n creu effaith dramatig a theimlad llonydd.
Mae'r llun hefyd yn taro'r galon, mae'n 'neud chi deimlo gwerthfawrogiad o brydferthwch ei milltir sgw芒r. Defnydd da o wagle sydd yn gadael digon o le a diddordeb i'r llygaid drafaelu o gwmpas y llun.
3ydd: Magi Wynne, Ysgol Gynradd Pentrecelyn
Mae llun Magi yn lun naturiol o ddwy ferch yn chwarae mewn cae. Er symlrwydd y llun mae wedi gallu dal y ddwy mewn ffocws er y symudiadau cloi, sydd yn gallu bod yn dipyn o gamp.
Beth sy'n hyfryd am y llun yma yw mae wedi dal moment o ryddid; rhyddid i allu chwarae a 'neud y mwya' o'i milltir sgw芒r yn ystod cyfnod clo, sydd felly'n ei wneud yn lun pwysig i'r cyfnod yma.
Llongyfarchiadau bawb!
Hefyd o ddiddordeb: